William Norton
Roedd William Barron Norton (28 Ebrill 1862 - 17 Rhagfyr 1898) yn chwaraewr dri chwarter rygbi'r undeb rhyngwladol Cymru a chwaraeodd rygbi clwb i Glwb Rygbi Caerdydd[1] a rygbi rhyngwladol i Gymru . Dyfarnwyd chwe chap iddo dros Gymru. CefndirGanwyd Norton yng Nghaerfyrddin yn bumed blentyn yr Henadur Henry Norton a Margaret ei wraig. Cafodd ei addysgu yn Ysgol Ramadeg y Frenhines Elizabeth, Caerfyrddin. Gyrfa rygbiRoedd Norton yn un o'r chwaraewyr rhyngwladol Cymreig cynharaf a chynrychiolodd ei wlad gyntaf ym 1882,[2] yng nghyfarfyddiad cyntaf erioed y tîm ag Iwerddon. O dan gapteniaeth Charles Lewis, fe aeth Norton i mewn i dîm yn cynnwys deg cap newydd, ar ôl i dîm Cymru gael eu bychanu yn eu gêm agoriadol yn erbyn Lloegr. Enillodd Cymru'r gêm gan ei wneud yn fuddugoliaeth ryngwladol gyntaf un i'r tîm. Ail-ddewiswyd Norton ar gyfer y pum gêm nesaf, gan gwblhau Pencampwriaeth y gwledydd cartref 1883 a 1884 yn eu cyfanrwydd. Collodd Cymru ddwy gêm Pencampwriaeth 1883, a dwy gêm agoriadol twrnamaint 1884, ond roeddent yn llwyddiannus yng ngêm olaf y gyfres yn erbyn Iwerddon. Yn y gêm yn erbyn Iwerddon 1884 roedd tîm Iwerddon ddau chwaraewr yn brin a gorfodwyd hwy i fenthyg dau chwaraewr o Gymru i gwblhau eu tîm. Er ei fod yn gêm olaf gyrfa ryngwladol Norton, daeth i ben trwy sgorio ei unig gais dros ei wlad. Gemau rhyngwladolCymru [3] GyrfaWedi ymadael a'r ysgol aeth i wneud erthyglau mynegol i hyfforddi bod yn beiriannydd sifil yng Ngwaith Dŵr Caerdydd, ac wedi hynny bu am sawl blwyddyn yn gweithio i Gorfforaeth Caerdydd. Symudodd o Gaerdydd i gymryd swydd peiriannydd sifil gan Gorfforaeth Manceinion. Gwnaeth gais i'r Swyddfa Dramor am swydd yn Old Calabar, Gorllewin Affrica ar y pryd, Nigeria bellach. Roedd yn llwyddiannus, a dechreuodd ei swydd yno ym mis Awst 1898. Bu yno am ychydig fisoedd pan ddaliodd niwmonia a bu farw ym mis Rhagfyr 1898.[4] Llyfryddiaeth
Cyfeiriadau
|
Portal di Ensiklopedia Dunia