William Morris (AS Caerfyrddin)
Roedd William Morris (25 Mehefin 1811 – 25 Chwefror 1877) yn fancer ac yn wleidydd Cymreig a wasanaethodd fel Aelod Seneddol Rhyddfrydol Bwrdeistref Caerfyrddin rhwng 1864 a 1868.[1] CefndirGanwyd Morris yn Llangynnwr yn ail fab i Thomas Morris a Maria ei wraig. Cafodd ei addysgu yn ysgol ramadeg Caerfyrddin.[2] Ym 1847 priododd Magdalen Mary Anna merch Sackville F Gwynne, Parc Glanbrân. Bu iddynt dau fab ac un ferch. GyrfaYn y 1780au agorodd hen dad-cu Morris banc yng Nghaerfyrddin o’r enw David Morris & sons. O dan reolaeth y meibion daeth yn fusnes hynod lwyddiannus a phan roddodd David Morris, ewythr William y gorau i’w gyfran ef o’r banc er mwyn bod yn Aelod Seneddol ym 1837 roedd yn werth tua £250,000 (gwerth tua £18 miliwn bellach).[3] Etifeddodd William a’i frawd hŷn Thomas Charles Morris y banc gan ei redeg hyd 1871, pan werthwyd y cwmni i’r National Provincial Bank of England. Gyrfa wleidyddolAr farwolaeth ei ewyrth David Morris ym 1864 etholwyd William i sedd Bwrdeistref Caerfyrddin yn ddiwrthwynebiad ar ran y Blaid Ryddfrydol. Cafodd ei ail ethol yn ddiwrthwynebiad yn etholiad cyffredinol 1865, ond torrodd ei iechyd a phenderfynodd sefyll i lawr o’r senedd ar adeg etholiad cyffredinol 1868. Gwasanaethodd fel henadur ar Gorfforaeth Bwrdeistref Caerfyrddin am nifer o flynyddoedd a bu’n faer ar bedwar achlysur. Bu’n Ynad Heddwch ar fainc Sir Gaerfyrddin ac yn is raglaw’r sir. Gwasanaethodd fel Uchel Siryf ym 1858.[4] MarwolaethBu farw yn ei gartref Y Cwm (neu Coomb fel bu rhai yn ei sillafu), Llangynog yn 68 mlwydd oed.
Cyfeiriadau
|
Portal di Ensiklopedia Dunia