William Huskisson
Gwleidydd o Loegr oedd William Huskisson (11 Mawrth 1770 – 15 Medi 1830), oedd yn Aelod Seneddol dros amryw etholaethau, gan gynnwys Lerpwl.[1] Fe'i ganwyd yn Birtsmorton Court, Malvern, Swydd Gaerwrangon. O 1783 hyd 1792 bu'n byw gyda'i hen-ewythr ym Mharis, a bu'n dyst i ddigwyddiadau'r Chwyldro Ffrengig. Daeth dan adain Ardylydd Stafford, llysgennad Prydain ym Mharis, a dychwelodd i Lundain gydag ef yn 1792. Yno derbyniodd nawdd dau ffigwr gwleidyddol pwerus ychwanegol: Henry Dundas, yr Ysgrifennydd Cartref, a William Pitt yr Ieuengaf, y Prif Weinidog. Roedd Huskisson yn weinyddwr galluog a phenodwyd ef yn Is-ysgrifennydd dros Ryfel yn 1795. Daeth yn Aelod Seneddol dros Morpeth yn 1796. Yn ddiweddarach roedd yn Aelod Seneddol dros Liskeard (1804–7), Harwich (1807–12), Chichester (1812–23) a Lerpwl (1823–30). Yn ystod y blynyddoedd hyn bu'n gwasanaethu mewn amrywiol swyddi gwleidyddol – Ysgrifennydd y Trysorlys (1804–6, 1807–9), Prif Gomisiynwyr Coedwigoedd a Choedwigoedd (1814–23), Llywydd y Bwrdd Masnach (1823–7), Trysorydd y Llynges (1823–7), Ysgrifennydd dros Ryfel a'r Trefedigaethau (1827–8). Cafodd Huskisson ei ladd gan y locomotif Rocket yn ystod diwrnod agoriadol Rheilffordd Lerpwl a Manceinion. Cyfeiriadau
|
Portal di Ensiklopedia Dunia