William Forbes Skene
Hanesydd a hynafiaethydd o'r Alban oedd William Forbes Skene (7 Mehefin 1809 - 29 Awst 1892). Roedd yn fab i James Skene (1775–1864), o Rubislaw, ger Aberdeen, cyfaill i Syr Walter Scott. Addysgwyd ef yn Academi Caeredin a Phrifysgol St Andrews, gan gymeryd diddordeb arbennig mewn astudio ieithoedd a llenyddiaeth Geltaidd. Yn 1837 cyhoeddodd The Highlanders of Scotland, their Origin, History and Antiquities. Bu'n gweithio i Lys y Sesiwn, yna yn 1847, yn ystod newyn yn Ucheldiroedd yr Alban, bu'n ysgrifennydd i'r Central Board for Highland Relief. Bu farw yng Nghaeredin ar 29 Awst 1892. Ei brif waith oedd Celtic Scotland, a History of Ancient Alban (5 cyfrol, Caeredin, 1876-1880). Cyhoeddodd argraffiad o'r Chronica genus Scotorum gan John o Fordun (Caeredin, 1871–1872); The Four Ancient Books of Wales (Caeredin, 1868); Chronicles of the Picts and Scots (Caeredin, 1867); y Vita S. Columbae gan Adomnán (Caeredin, 1874); Essay on the Coronation Stone of Scone (Caeredin, 1869); a Memorials of the Family of Skene of Skene (Aberdeen, 1887). Llyfryddiaeth
|
Portal di Ensiklopedia Dunia