William Davies (AS Sir Benfro)
Roedd Syr William Davies (23 Awst 1821 – 23 Tachwedd 1895) yn wleidydd Rhyddfrydol Cymreig a gynrychiolodd Sir Benfro fel Aelod Seneddol. Bywyd PersonolGanwyd William Davies yn Hwlffordd yn fab i Thomas Davies, Prendergast. Derbyniodd addysg elfennol yn ysgol y Parchedig Brown Hwlffordd gan ymadael a'r ysgol yn 14 oed. GyrfaYn 14 oed aeth i weithio fel prentis yn swyddfa gyfreithiol Cwmni William Rees, Hwlffordd. Wedi darfod ei brentisiaeth daeth yn glerc wedi ei gyfamodi i Mr Rees ac wedi derbyn ei erthyglau clercio cymhwysodd fel cyfreithiwr, gan ddod yn bartner yng nghwmni William Rees. Bu Davies yn gysylltiedig â'r cwmni am weddill ei oes. Ym 1854 sefydlodd Rees a Davies yr Haverfordwest and Milford Haven Telegraph fel papur newyddion Rhyddfrydol.[1] Ychydig cyn ei farwolaeth aeth ei fusnes i drafferth ariannol ac fe'i gwnaed yn fethdalwyr wedi ei farwolaeth.[2] Gyrfa wleidyddolBu Davies yn gweithio fel asiant etholiadol i Syr Hugh Owen Owen yn is etholiad Sir Benfro ym 1861, lle gollodd o drwch y blewyn, ac yna yn isetholiad Bwrdeistref Penfro ychydig fisoedd yn ddiweddarach lle fu Syr Hugh yn llwyddiannus, yn etholiad cyffredinol 1865 bu'n gweithredu eto fel asiant i Syr Hugh a hefyd fel asiant David Davies, Llandinam yn etholaeth Ceredigion. Ar farwolaeth Syr John Henry Scourfield aelod Ceidwadol Sir Benfro ym 1876 safodd Davies fel yr ymgeisydd Rhyddfrydol aflwyddiannus yn yr isetholiad, ond llwyddodd i gipio'r sedd yn yr etholiad cyffredinol canlynol ym 1880 gan dal y sedd hyd ei ymddeoliad o'r senedd ym 1892. Fe'i olynwyd fel AS Sir Benfro gan ei fab William Rees Morgan Davies. Ym 1893 fe'i urddwyd yn farchog am ei gyfraniad disglair i wasanaeth cyhoeddus a gwleidyddol.[3] Priodasau a marwolaethBu Davies yn briod dwywaith priododd ei wraig gyntaf Martha Rees Morgan ferch hynaf Thomas Morgan, Hwlffordd a nith i William Rees ym 1859, bu iddynt chwe mab ac un ferch; bu h farw ym 1872 mab iddynt oedd olynydd Davies fel AS Sir Benfro, Syr William Rees Morgan Davies. Ei ail wraig oedd Mary Merch Thomas Herbert, cyfrifydd yng nghwmni Davies a nith arall i William Rees fu iddynt un mab a bu hi farw ym 1914[4] Bu farw Davies yn ei gartref Spring Gardens, Hwlffordd a chladdwyd ei weddillion ym Mynwent capel Bedyddwyr Macpelah ar gyrion Hwlffordd[5] Cyfeiriadau
|
Portal di Ensiklopedia Dunia