William Bulkeley Hughes
Roedd William Bulkeley Hughes (26 Gorffennaf 1797 – 8 Mawrth 1882) yn wleidydd Cymreig a eisteddodd yn Nhŷ'r Cyffredin fel Ceidwadwr 1837-1859, ac fel Rhyddfrydwr 1865-1882 dros etholaeth Caernarfon[1] Bywyd PersonolGanwyd William Bulkeley Hughes ym Mhlasty Bryn y Neuadd, Llanfairfechan yn fab hynaf i Syr William Bulkeley Hughes, Plas Coch, Llanidan, Ynys Môn ac Elizabeth (née Thomas), Coed Alun, Caernarfon ei wraig. Cafodd ei addysgu yn Ysgol Harrow. Bu'n briod ddwywaith. Ei wraig gyntaf oedd Elizabeth Wormald, merch Jonathan Nettleship Mattersey Abbey ger Bawtry Swydd Efrog a gweddw Harry Wormald. Bu iddynt briodi ym 1825 bu hi farw ym 1865.[2] Priododd ei ail wraig Elizabeth Donkin, merch William Donkin, ym 1866 bu iddynt un ferch. GyrfaCafodd ei alw i'r Bar yn Lincoln's Inn ym 1824 [3] a bu'n gweithio ar gylchdeithiau Cymru a Chaer a Rhydychen. Ar farwolaeth ei dad ym 1830 etifeddodd Ystâd Plas Coch a rhoddodd y gorau i fod yn gyfreithiwr gweithredol er mwyn rhedeg ei ystâd. Tu allan i faes y gyfraith yr oedd yn ŵr busnes efo diddordeb mawr yn natblygiad y rheilffyrdd cynharaf yng Ngogledd Cymru. Roedd yn gadeirydd Cwmni Rheilffordd Canol Môn o'i sefydlu hyd ei uno a'r London and North Western Railway ym 1876. Er ei fod yn ffafrio cael pont Rheilffordd i Fôn o Gaernarfon yn hytrach na Bangor[4] fe drefnodd wledd i ddiolch i Robert Stephenson am ei waith ar achlysur agor Pont Britannia ym 1850. Gwasanaethodd fel Ynad Heddwch, Comisiynydd yr Heddwch a Dirprwy Raglaw Siroedd Caernarfon a Môn a chafodd ei benodi yn Uchel Siryf Môn ym 1861.[5] Cafodd ei dderbyn yn aelod o Orsedd y Beirdd yn Eisteddfod Genedlaethol Porthmadog 1851 fel ofydd a gan ddefnyddio Gwilym ap Bran fel ei Enw yn Orsedd[6] Gyrfa Wleidyddol[7] Safodd etholiad am y tro cyntaf yn Etholiad Cyffredinol 1837 yn etholaeth Bwrdeistrefi Caernarfon yn enw'r Ceidwadwyr, ei wrthwynebydd ar yr ochr Rhyddfrydol oedd y Capten Charles Paget enillodd Bulkeley Hughes o 405 o bleidleisiau i 385. Paget oedd ei wrthwynebydd aflwyddiannus eto yn etholiad 1841 Yn etholiad 1847 safodd Bulkeley Hughes fel Rhyddfrydwr Geidwadol (cefnogwr o'r Blaid Geidwadol, Rhyddfrydig ei farn) gan gael ei ddychwelyd yn ddiwrthwynebiad. Cadwodd y sedd fel Rhyddfrydwr Ceidwadol ym 1852 pan gafodd ei wrthwynebu gan Richard Davies ar ran y Rhyddfrydwyr go iawn. Cafodd ei ddychwelyd yn ddiwrthwynebiad ym 1857 fel Rhyddfrydwr Ceidwadol. Ym 1858 newidiodd ei deyrngarwch pleidiol a chroesodd i'r Blaid Ryddfrydol ac yn etholiad 1859, safodd fel ymgeisydd Rhyddfrydol yn erbyn Charles Wynne ar ran y Ceidwadwyr. Cadwodd Wynn y sedd i'r achos Geidwadol a chollodd Bulkeley Hughes ei sedd. Penderfynodd Wynn i beidio ag amddiffyn ei sedd yn etholiad 1865 a dychwelodd Bulkeley Hughes i Dŷ'r Cyffredin fel cynrychiolydd y Blaid Ryddfrydol gan gadw'r sedd i'r blaid honno hyd ei farwolaeth ym 1882. Ar adeg ei farwolaeth ef oedd aelod hynaf Tŷ'r Cyffredin. MarwolaethBu farw yn ei gartref, Plas Coch ym 1882 yn 85 mlwydd oed, cafodd ei weddillion eu claddu ym mynwent Eglwys Edwen Sant, Llanedwen. Cyfeiriadau
|
Portal di Ensiklopedia Dunia