William Brace
![]() Gwleidydd ac arweinydd undeb Cymreig oedd William Brace (23 Medi 1865 – 12 Hydref 1947) a oedd yn Llywydd Ffederasiwn Glowyr De Cymru rhwng 1912 ac 1915. Roedd hefyd yn Aelod Seneddol Lib-Lab San Steffan dros etholaeth De Morgannwg ac Abertyleri ac roedd yn lladmerydd brwd dros un undeb ar gyfer holl lowyr gwledydd Prydain a chafwyd sawl dadl gyhoeddus ynghylch hyn rhyngddo a Mabon (William Abraham). Rhwng 1915 ac 1919 roedd yn is-ysgrifennydd yn y Swyddfa Gartref.[1] Cafodd ei eni yn Rhisga yn yr ardal lofaol o Sir Fynwy yn un o chwech o blant.[2] Wedi cyfnod yn yr ysgol gynradd aeth i weithio i bwll glo lleol yn ddim ond 12 oed ac yna ym mhyllau Celynnen ac Abercarn. Yn 1898 cafodd ei benodi'n is-lywydd cyntaf Ffederasiwn Glowyr De Cymru a daeth yn Llywydd rhwng 1912 ac 1925. Ym 1890 cafodd ei benodi yn asiant i Undeb Llafur De Cymru ac ychydig yn ddiweddarach yn Gynghorydd ar Gyngor Sir Fynwy.[2][3] Priododd Nellie Humphreys yn 1890 a chawsant ddau o blant ac un ferch. Daeth y mab ieuengaf, Ivor Llewellyn Brace, yn Brif Farnwr Prif Lys Sarawak, Gogledd Borneo a Brunei.[2] Bu farw ar ôl gwaeledd hir yn ei gartref yng Ngallt-yr-ynn, Casnewydd yn Hydref 1947 yn 82 oed.[2][3] Cyfeiriadau
|
Portal di Ensiklopedia Dunia