Wang Wei
Bardd, arlunydd, cerddor a gwladweinydd o Tsieina yng nghyfnod Brenhinllin Tang a elwir weithiau "y Bwdha-Fardd" oedd Wang Wei (Tsieineeg 王維 Wáng Wéi) (701 – 761). Ei fywydO dras uchelwrol, basiodd ei arholiadau ar gyfer y Gwasanaeth Sifil Ymherodrol yn 721 a chafodd yrfa lwyddiannus gan ymddyrchafu i fod yn Ganghellor yn 758. Yn ystod Gwrthyfel An Lushan osgodd gwrdd ag asiantau'r gwrthryfelwyr trwy esgus ei fod yn fyddar. Treuliodd ddeng mlynedd yn astudio dan y meistr Chán Daoguang. Ar ôl marwolaeth ei wraig yn 730, sefydlodd fynachlog ar ran o'i ystad ac aeth yno i ymddeol. Fe'i cofir yn bennaf am ei gerddi sy'n darlunio golygfeydd tawel o ddyfroedd a niwl heb lawer o le ynddynt i bobl, fel yn achos llawer o baentiadau'r cyfnod. Does dim un o'i baentiadau gwreiddiol wedi goroesi, ond ceir copïau a briodolir iddo, yn enwedig paetniadau tirwedd traddodiadol. Cafodd ddylanwad ar Ysgol Ddeheuol paentiadau tirwedd Tsieina, a nodweddir gan strociau brwsh cryf a golchiadau inc ysgafn. Enghraifft o'i ganuMae'r gerdd fer 'Yn Nyfnderoedd y Mynydd Anial' yn un o ddwy o gerddi Wang Wei a gyfieithwyd i'r Gymraeg gan Cedric Maby:
Gweler hefydCyfeiriadau
LlyfryddiaethCeir dwy o gerddi Wei Wan wedi'u cyfieithu i'r Gymraeg yn y gyfrol:
Ceir sawl cyfieithiad Saesneg, yn cynnwys
|
Portal di Ensiklopedia Dunia