Walden
Llyfr Saesneg gan yr athronydd Americanaidd Henry David Thoreau yw Walden (teitl llawn: Walden; or, Life in the Woods). Fe'i cyhoeddwyd gyntaf yn 1854. Mae'r testun yn fyfyrdod o fyw syml mewn amgylchedd naturiol. Mae'n disgrifio arbrawf cymdeithasol a mordaith darganfyddiad ysbrydol. Yn y llyfr, mae Thoreau yn croniclo ei fywyd ar ei ben ei hun mewn caban pren, a adeiladodd yng nghoedwig ar dir ei ffrind Ralph Waldo Emerson ger Concord, Massachusetts. Safodd y caban yn agos at y llyn Pwll Walden, ac enwir y llyfr ar ei ôl. Bu Thoreau yn byw yno o 4 Gorffennaf 1845 i 6 Medi 1847, ac yn ystod yr adeg honno ysgrifennodd ei lyfr cyntaf, A Week on the Concord and Merrimack Rivers. Trwy ymgolli ei hun ym myd natur, roedd Thoreau yn gobeithio ennill dealltwriaeth fwy gwrthrychol o gymdeithas trwy fewnwthiad personol. Byw syml a hunangynhaliaeth oedd ei nodau eraill. Ysbrydolwyd y prosiect gan syniadau athroniaeth drosgynnol, yr oedd yn esboniwr blaenllaw ohoni. Heddiw, er gwaethaf nifer o beirniadaethau hallt gan feddylwyr eraill, mae Walden yn parhau i fod yn ddylanwadol ac yn un o weithiau llenyddiaeth enwocaf America. Dolenni allanol
|
Portal di Ensiklopedia Dunia