Wace
Bardd ac hanesydd o Jersey yn yr iaith Hen Normaneg oedd Wace (tua 1100 – rhywbryd ar ôl 1174).[1] Mae'n adnabyddus am ei ddau gronicl mydryddol Roman de Brut (1155) a Roman de Rou (1160–74). Hanes Prydain ers oes Brutus ydy Roman de Brut, sydd yn addasiad o ffug-hanes Sieffre o Fynwy, Historia Regum Britanniae, yn bennaf. Ychwanegodd Wace sawl agwedd ddychmygol a rhamantus at hanes traddodiadol Prydain a Chylch Arthur, gan gynnwys y Ford Gron. Arddull fywiocach a dramataidd sydd i gronicl Wace, a chyda'i gyfieithiad i'r Saesneg gan Layamon roedd yn hynod o ddylanwadol yn natblygiad chwedlau'r Brenin Arthur yn Lloegr ac yn Ffrainc. Penodwyd Wace yn ganonwr yn Bayeux rhywbryd cyn 1169, ar gais Harri II, brenin Lloegr, yr hwn a gomisiynodd Roman de Rou. Ysgrifennwyd y gwaith hwnnw mewn cwpledi wythsill a phenillion unodl alecsandraidd. Hanes ydyw o'r dugiaid Normanaidd o gyfnod y Llychlynnwr Rou (Hrólfr yn Norseg, neu Rollon yn Ffrangeg) hyd at Robert Curthose, ac mae'n cynnwys disgrifiad enwog o Frwydr Hastings. Yn 1174, trosglwyddodd y Brenin Harri ei nawddogaeth at un o'r enw Beneeit (o bosib Benoît de Sainte-Maure), a bu gwaith Wace yn anorffenedig. Yn ogystal â'r groniclau, mae tri gwaith defosiynol gan Wace hefyd yn goroesi. Cyfeiriadau
|
Portal di Ensiklopedia Dunia