Victoria Wood
Actores, dramodydd, cyfansoddwraig, cantores, cherddores a chyfarwyddwraig Seisnig oedd Victoria Wood CBE (19 Mai 1953 – 20 Ebrill 2016).[1] Ysgrifennodd a serennodd Wood mewn sgetshis, dramâu, ffilmiau a chomedïau sefyllfa, ac roedd ei pherfformiadau comedi byw yn cynnwys caneuon roedd wedi ei chyfansoddi a'u chwarae ar y piano. Cyfansoddodd a pherfformiodd Wood arwyddgan ei chyfres gomedi sefyllfa arobryn Dinnerladies ar y BBC. Roedd llawer o'i hiwmor wedi ei seilio ar fywyd bob dydd, ac yn cyfeirio at gyfryngau poblogaidd Prydeinig ac enwau cynnyrch cynhenid Prydeinig. Roedd yn nodedig am arsylwi ar ddiwylliant ac yn dychanu dosbarthiadau cymdeithasol.[2][3] Dechreuodd ei gyrfa ym 1974 pan enillodd y sioe dalent New Faces. Bywyd personolPriododd y consuriwr Geoffrey Durham yn Mawrth 1980. Fe wahanodd y ddau yn Hydref 2002.[4] Roedd ganddynt ddau o blant, Grace (ganwyd 1988) a Henry (ganwyd 1992). Er fod Wood yn mynnu preifatrwydd ei hun a'i phlant yn chwyrn, hyd yn oed i ddechrau yn gwrthod ryddhau enw ei mab pan ganwyd, ymddangosodd Henry Durham mewn cameo bach yn rhaglen ddogfennol 'sut a wnaed' ar gyfer ei rhaglen Nadolig arbennig yn 2010. Roedd Wood yn mynychu cyfarfodydd y Crynwyr[5] ac roedd yn lysieuwr, gan ddweud unwaith, "I'm all for killing animals and turning them into handbags. I just don't want to have to eat them."[2] Bu farw, ar 20 Ebrill 2016, ar ôl brwydr byr gyda chanser.[6] Roedd Wood yn byw yn Highgate, gogledd Llundain. Teledu
Sioe gerdd
Cyfeiriadau
|
Portal di Ensiklopedia Dunia