Victoria, y Dywysoges Reiol
Roedd Victoria Adeilaide Mary Louisa (21 Tachwedd 1840 – 5 Awst 1901) yn Dywysoges Frenhinol y Deyrnas Unedig ac, fel gwraig y Kaiser Friedrich III, yn ymerodres yr Almaen a brenhines Prwsia. Fe'i ganed ym Mhalas Buckingham ym 1840, yn blentyn hynaf i'r frenhines Victoria a'r tywysog Albert. Hi oedd yr etifedd i orsedd y Deyrnas Unedig am y cyfnod byr cyn geni ei brawd Albert Edward (Edward VII yn hwyrach) ym 1841. Cafodd addysg ryddfrydol oddi wrth ei thad. Ym 1858, a hithau'n 17 oed, priododd y tywysog Friedrich o Brwsia; cawsant wyth o blant. Roedd y tywysog a'r dywysoges yn ffigyrau rhyddfrydol o fewn llys Prwsia ym Merlin; roeddent am i'r deyrnas fod yn frenhiniaeth gyfansoddiadol megis un Prydain, yn hytrach na brenhiniaeth absoliwtaidd. Roeddent o ganlyn yn amhoblogaidd yn y llys ac yn wleidyddol ar ôl i Otto von Bismarck ddod i rym ym 1862. Esgynnodd Friedrich i orsedd yr Almaen a Phrwsia ym 1888, ond teyrnasodd am 99 diwrnod yn unig cyn iddo farw o ganser y gwddf. Fe'i olynwyd gan Wilhelm II, a oedd yn fwy ceidwadol a militaraidd na'i rieni. Ar ôl marwolaeth Friedrich gelwid Victoria yn Kaiserin Friedrich ('yr ymerodres Friedrich'), ac aeth i fyw yn Kronberg im Taunus lle comisiynodd Castell Friedrichshof (Schlosshotel Kronberg heddiw) i goffáu ei gŵr. Bu farw yn y castell ym 1901. |
Portal di Ensiklopedia Dunia