Velenje
Dinas yn hen dalaith Styria Isaf yn Slofenia yw Velenje (ynganu [ʋɛˈlɛːnjɛ]; Almaeneg: Wöllan). Fe'i sefydlwyd gan y Iarll Carinthia, Von Heunberg, a'i grybwyll am y tro cyntaf ym 1264 fel canolfan farchnad a adeiladwyd o amgylch y castell, diolch i echdynnu lignit, ehangodd y ddinas yn arbennig ar ôl yr Ail Ryfel Byd. Ar ôl marwolaeth yr arlywydd Comiwnyddol Iwgoslafia Tito, ym 1980, cafodd ei ailenwi'n Titovo Velenje, ond dychwelodd i'r hen enw yn 1990 ychydig cyn annibyniaeth Slofenia. Velenje yw cartref ffatri offer Gorenje, a dyma fan geni Jolanda Čeplak, rhedwr pellter canol Slofenia ac enillydd medal efydd yn y Gemau Olympaidd. Gwreiddiau'r enw![]() Mae'r enw yn deillio o Velen'e selo neu "bentref Velenъ". Theori arall, llai tebygol, yw fod yr enw yn deillio o'r gair Slofeneg velen am "porfa (man pori) ar gyfer gwartheg".[1] Newidiwyd yr enw i Titiovo Velenje yn 1981 yn dilyn marwolaeth arweinydd Comiwnyddol Iwgoslafia. Ond newidiwyd yr enw nôl i Velenje yn 1990, flwyddyn cyn annibyniaeth Slofenia oddi ar Iwgoslafia.[2] Adnabwyd y dref yn y gorffennol wrth yr enw Almaeneg, Wöllan. HanesGwreiddiauMae cofnodion cyntaf y ddinas yn dyddio'n ôl i oddeutu 1264, roedd y ddinas yn cael ei galw'n "Weln" (fel Welan ym 1270, Welen/Belen ym 1296). Adnabwyd y ddyffryn Šaleška dolina fel "Dyffryn y Cestyll" gan fod 20 o gestyll yndddi.[3] Tref farchnad fechan iawn oedd Velenje gyda phobogaeth o dim ond 364 yn 1886. Dechreuwyd i'r boblogaeth dyfu gyda darganfod glo linate yn y dyffryn ond hyd yn oed cyn hwyred ag 1931 roedd hanner y boblogaeth yn y dyffryn yn dal i amaethu. Agworwyd y rheilffordd yn 1891 yn y dyffryn gan gysylltu Velenje gyda thref Celje. Oes fodern![]() ![]() Roedd yr hen ran o'r ddinas bresennol yn dref farchnad gyda 364 o drigolion, wedi'i lleoli wrth droed Castell Velenje. Cyfrannodd y diwydiant mwyngloddio coedlo (glo llwyd, lignit) at ehangu'r ddinas cyn yr Ail Ryfel Byd. Ar ôl y Rhyfel, gan adlewyrchu'r galw cynyddol am lo, daeth yr angen am dref fodern i'r amlw, datblygodd Velenje yn gyflym a daeth yn ddinas fodern. Dyluniwyd ac adeiladwyd y ddinas tua 1950, ar adeg Gweriniaeth Sosialaidd Slofenia, fel prototeip o ddinas sosialaidd fodernaidd yn debyg i Eisenhüttenstadt yn hen Ddwyrain yr Almaen. Hyrwyddir Velenje fel "y ddinas Slofeneg ifancaf"[4] Roedd y dref newydd hon i fod i gael ei hadeiladu yn lle bythynnod a gynigiwyd i ddechrau ar gyfer nifer o lowyr o'r Iwgoslafia gyfan. O dan arweinyddiaeth "Rudnik Velenje" ar y pryd, dechreuodd Mr Nestl Žgank, a dan arweiniad y pensaer Janez Trenz, ddatblygu cynlluniau ar gyfer tref fodern gyda thua 30,000 o drigolion. Arweiniodd arwyddair Žgank “y dylid llenwi lleoedd preswyl glowyr, sy’n treulio hanner y dydd o dan y ddaear, â golau a heulwen” at dref gyfoes, fodernaidd gyda strwythurau ar ei phen ei hun mewn ardaloedd mawr, gwyrdd. Gwelwyd y dref newydd fel arwyddlun o'r system Gomiwnyddol llwyddiannus Iwgoslafia ac mae'r darlun yno'n fyw o hyd.[5] Yn anffodus, am nifer o resymau, ni pharhaodd cynllunwyr trefi â'r cysyniad hwn. Serch hynny, fe wnaethant lwyddo i warchod cymeriad modernistaidd hwyr canol y dref, sy'n ei gwneud yn un o ddim ond ychydig yn Ewrop. Roedd ehangu digynsail yr anheddiad gyda mwy nag 20 o adeiladau mawr wedi cael eu codi mewn dwy flynedd yn unig yn niwedd y 1960au yn synnu’r wlad gyfan, a ddyfarnodd hawliau tref Velenje ar 20 Medi 1959, y diwrnod pan fydd "Mestna občina Velenje" bellach yn dathlu ei gwyliau trefol.[3] Cafodd sgwâr canolog y ddinas ei chysegru i Tito ar 20 Medi 1959. Gallwn ddod o hyd i'r cerflun uchaf o Tito yn y byd (tua 10 metr). Fe'i dyluniwyd gan Antun Augustinčić a Vladimir Herljević.[6] Yn y sgwâr cyfarfu Nikita Khrushchev[7] a Leonid Brezhnev, fel y gwnaeth arweinwyr Comiwnyddol Gwlad Pwyl, Edward Gierek a Rwmania, Nicolae Ceaușescu. Henebion a lleoedd o ddiddordeb
Lleoliad a DemograffiMae Velenje wedi ei lleoli yn nyffryn Šaleška dolina, yng ngogledd-ddwyrain Slofenia, tua 85 km o'r brifddinas, Ljubljana. Mae'n chweched ddinas fwyaf y wlad gydag oddeutu 30,000 o drifolion.[8] ac yn ganolog i nifer o'r dinasoedd fwyaf eraill, Maribor a Celje, 75 km a 25 km i ffwrdd. Mae dinas Graz yn Awstria tua 130 km i ffwrdd. ![]() Rhwng 1999 a 2009, arhosodd poblogaeth bwrdeistref Velenje yn agos at 34,000 o drigolion[9]. Datblygiad Poblogaeth Velenje[9]
EconomiMae Velenje yn un o ganolfannau economaidd pwysicaf Slofenia ac mae ganddi isadeileddau modern. Mae datblygu economaidd yn seiliedig ar ynni ac adeiladu. Mae diogelu'r amgylchedd, y sector crefftau a masnachol wedi creu datblygiad cadarn. Mae gan y ddinas dair canolfan siopa fawr: archfarchnad Mercator, Velenje Velenjka, a Chanolfan Siopa Velenje. Seilwaith a thrafnidiaethMae tua 15 trên y dydd i Ljubljana a Maribor yn ystod yr wythnos, ac maen nhw'n stopio yn Celje am tua 2 neu 3 awr. Yn lle, dim ond pedwar trên sydd ar ddydd Sadwrn, dim un ar ddydd Sul. Mae gorsaf reilffordd y dref wedi'i lleoli yn ardal y gorllewin. GefeillfrefiMae Velenje wedi gefeillio gyda phedair tref ar draws Ewrop:
ChwaraeonPêl-droedYr N.K. Rudar Velenje yw clwb pêl-droed mwyaf y ddinas, sy'n chwarae yn PrvaLiga Slofenia. Oriel
Cyfeiriadau
Dolenni allanol |
Portal di Ensiklopedia Dunia