Undeb Bedyddwyr Cymru
Mae Undeb Bedyddwyr Cymru (Saesneg: Baptist Union of Wales) yn undeb o gymanfaoedd eglwysi Bedyddwyr yng Nghmru. Nod Undeb Bedyddwyr Cymru yw hyrwyddo’r Ffydd Gristnogol yng Nghymru a hybu cenhadaeth ymhlith cymunedau Cymru. Mae'r Undeb o Gymanfaoedd sy’n cynnwys 380 o eglwysi wedi’u lleoli mewn ardaloedd gwledig, pentrefi, trefi a dinasoedd ar hyd ac ar led Cymru. Mae’r Undeb yn ymrannu’n ddwy adain, y naill yn Gymraeg ei hiaith a’r llall yn Saesneg ei hiaith. AelodaethMae Undeb Bedyddwyr Cymru yn aelod o Gyngor Eglwysi Cymru, Cytûn (Churches Together in Wales), Ffederaswin Bedyddwyr Ewrop, a Chynrhair Bedyddwyr y Byd. Lleoliad pencadlys yr Undeb yw Prifysgol y Drindod Dewi Sant yng Nghaerfyrddin. Yn 1995 roedd gan yr Undeb 544 o eglwysi gyda 25,384 o aelodau. Roedd 146 o'r eglwysi hwn (gyda 9552 aelod) hefyd yn aelodau o Undeb Bedyddwyr Prydain Fawr. IaithMae eglwysi'r Undeb yn addoli yn y Gymraeg a'r Saesneg. Ffynonellau
Dolenni allanol
|
Portal di Ensiklopedia Dunia