Tylluan
Aderyn ysglyfaethus nosol yw tylluan (hefyd gwdihŵ), sy'n perthyn i urdd y Strigiformes. Mae tua 229 o rywogaethau a geir bron ym mhob gwlad yn y byd.[1] Mae tylluanod yn hela mamaliaid bach, pryfed ac adar eraill ac mae ychydig o rywogaethau'n dal pysgod.[2] Dosberthir tylluanod yn ddau isurdd: yr isurdd hwn, y Strigidae, neu'r ‘gwir dylluanod’ ac isurdd y Tytonidae, neu'r ‘dylluanod gwynion’ (barn-owls). Mae'r dylluan mewn mytholeg clasurol yn symbol o wybodaeth, ond mewn mytholeg Geltaidd fe'i hystyrir yn aderyn marwolaeth. Trowyd Blodeuwedd yn dylluan, fel dial am odineb gyda Gronw Pebr. Ceir ei hanes ym Mhedwaredd Gainc y Mabinogi, sef Math fab Mathonwy. Cynllwyniodd Blodeuwedd gyda'i chariad Gronw Pebr, arglwydd Penllyn, i ladd Lleu, ac fel cosb cafodd hi ei throi'n dylluan gan Gwydion. Rhestr rannol o rywogaethauRhestr Wicidata:
Diwedd y rhestr a gynhyrchwyd yn otomatig o Wicidata.
Cyfeiriadau
|
Portal di Ensiklopedia Dunia