Twyn-y-Gaer, Llandyfalle
Mae Twyn-y-Gaer (hefyd Twyn y Gaer Llanfihangel Fechan[1]) yn fryngaer Geltaidd siâp hirgrwn sy'n perthyn i Oes yr Haearn, ac sydd wedi'i lleoli i'r gorllewin o Landyfalle, tua dwy filltir i'r Gogledd o Aberhonddu, Powys, Cymru; cyfeirnod OS: SO05443526. Mae'n 70 metr o ddiametr o'r Gorllewin i'r Dwyrain, ac yn 75m o'r Gogledd i'r De, gyda chlawdd a ffos o'i chwmpas.[2] Mae yma olion sarnfa ac mae'r mynediad i'r gaer i'r dwyrain, gyda bwlch modern yn y gorllewin. Ceir tystiolaeth o ragfur carreg ar yr ochr De-Orllewin. Lloches i gartrefi a gwersyllfeydd milwrol pwrpas caerau o'r Oes Haearn, ac fe'u codwyd cyn y goresgyniad Rhufeinig; cafodd cryn lawer ohonyn nhw eu hatgyfnerthu a'u defnyddio, yng nghyfnod y Rhufeiniaid; er enghraifft Dinorben yn y Gogledd. Oes aur bryngaerau gwledydd Prydain oedd rhwng 200 CC ac OC 43. Gweler hefydCyfeiriadau
|
Portal di Ensiklopedia Dunia