Trygve Lie
Diplomydd a gwleidydd Norwyaidd oedd Trygve Halvdan Lie (16 Gorffennaf 1896 – 30 Rhagfyr 1968) a fu'n Ysgrifennydd Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig o 1946 i 1952. Ganed yn Kristiania (bellach Oslo), yn Nheyrnasoedd Unedig Sweden a Norwy (enillai Norwy ei hannibyniaeth ym 1905). Astudiodd ym Mhrifysgol Kristiania cyn iddo weithio yn gyfreithiwr. Ymunodd â Phlaid Lafur Norwy (yr Arbeiderpartiet). Yn sgil goresgyniad Norwy gan yr Almaen Natsïaidd yn Ebrill 1940, penodwyd Lie yn weinidog tramor y llywodraeth Norwyaidd alltud yn Llundain. Ar 1 Chwefror 1946, etholwyd Trygve Lie yn Ysgrifennydd Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig, gan olynu Gladwyn Jebb, a fu'n gwasanaethu dros dro yn y swydd honno ers sefydlu'r Cenhedloedd Unedig yn Hydref 1945. Yn ystod ei gyfnod cythryblus yn y swydd, wynebai Lie argyfwng yr Undeb Sofietaidd ac Iran ym 1946, y Rhyfel Arabaidd–Israelaidd ym 1948, a Rhyfel Cyntaf Cashmir (1947–48). Ym 1950, aeth Lie ar daith i brifddinasoedd y pwerau mawr i hyrwyddo'r Cynllun Heddwch Ugain Mlynedd. Dadleuodd yn erbyn ymdrech yr Undeb Sofietaidd i ddiarddel Gweriniaeth Tsieina (Taiwan) o'r Cenhedloedd Unedig, ac o blaid derbyn Gweriniaeth Pobl Tsieina hefyd yn aelod. Wedi i luoedd y Cenhedloedd Unedig dderbyn awdurdod i gynorthwyo De Corea yn sgil dechrau Rhyfel Corea ym Mehefin 1950, gwrthwynebwyd Lie yn chwerw gan yr Undeb Sofietaidd. Byddai'r Sofietiaid yn sicr o roi feto ar ailethol Lie, ac o'r herwydd estynnwyd ei dymor yn y swydd am dair blynedd gan y Cynulliad Cyffredinol heb yr angen am etholiad. Gwrthododd yr Undeb Sofietaidd gydnabod Lie, a bu'n rhaid iddo ymddiswyddo ar 10 Tachwedd 1952. Gwasanaethodd Lie yn llywodraethwr sirol (fylkesmann) Oslo ac Akershus o 1955 i 1963, yn weinidog diwydiant Norwy o 1963 i 1964, ac yn weinidog masnach Norwy o 1963 i 1965. Bu farw Trygve Lie ym 1968 yn Geilo yn rhanbarth Buskerud, Norwy, yn 72 oed.[1] Cyfeiriadau
|
Portal di Ensiklopedia Dunia