Treialon Rainhill
Roedd Treialon Rainhill yn gystadleuaeth a drefnwyd rhwng 6 a 14 Hydref 1829, i brofi dadl George Stephenson mai locomotifau fyddai'r ffordd orau o bweru Rheilffordd Lerpwl a Manceinion a oedd bron â'i chwblhau ar y pryd. Cynigiwyd deg locomotif, gyda phump ohonynt yn gallu cystadlu, yn mynd ar hyd trac gwastad yn Rainhill, Swydd Gaerhirfryn (Glannau Merswy bellach). Y cystadleuaethRoedd yn rhaid i bob peiriant deithio cwrs o filltir a thri chwarter (2.8 km) bob ffordd, gan gynnwys un rhan o wyth o filltir (200m) ym mhob pen ar gyfer codi'r cyflymder ac ar gyfer stopio'r trên. Felly byddai'r peiriant, gyda'i lwyth, yn teithio milltir a hanner (2.4 km) bob ffordd ar gyflymder uchaf. Roedd yn rhaid i'r peiriannau gyflawni deg taith, a fyddai'n gyfartal i siwrnai o 35 milltir (56 km), sef y pellter o Lerpwl i Fanceinion, ac roedd yn rhaid i 30 milltir (48 km) o'r rhain fod ar gyflymder llawn. Roedd yn rhaid i'r cyflymder cyfartalog fod o leiaf 10 milltir yr awr (16 km/awr). Ar ôl hynny, gallai'r peiriannau ail-lenwi â thanwydd a gwneud deg taith ychwanegol, i efelychu'r daith yn ôl. ![]() Y cystadleuwyrCyflwynwyd deg locomotif yn swyddogol ar gyfer y treialon, ond ar y diwrnod y dechreuodd y gystadleuaeth dim ond pump oedd ar gael, sef
Yr enillyddLocomotif Stephenson, Rocket, oedd yn fuddugol, gan mai dyma'r unig locomotif a oedd yn gallu cwblhau'r treialon. Derbyniodd cyfarwyddwyr Rheilffordd Lerpwl a Manceinion y dylai locomotifau weithredu gwasanaethau ar eu lein newydd, ac enillodd George Stephenson a'i fab Robert gytundeb i gynhyrchu locomotifau ar gyfer y rheilffordd. Llyfryddiaeth
|
Portal di Ensiklopedia Dunia