Trabzon
Dinas hynafol ar arfordir y Môr Du yng ngogledd-ddwyrain Twrci yw Trabzon (hen enw: Trebizond, o'r ffurf wreiddiol Τραπεζούντα (Trapezounda), yn tarddu o 'τράπεζα', sef 'banc' mewn Groeg). Mae Trabzon yn borthladd pwysig ac yn brifddinas talaith Trabzon. HanesSefydlwyd y dref hynafol fel trefedigaeth gan Roegwyr o Filetus yn y 6ed ganrif CC. Ymsefydlasant ar graig geometraidd ei ffurf a roddodd iddi ei henw gwreiddiol Trapezos (y gair Groeg am "bwrdd"). Roedd hi'n ddinas bwysig yn y cyfnod Bysantaidd. O'r flwyddyn 1204 hyd 1461 Trebizond oedd prifddinas Ymerodraeth Trebizond a reolai ran sylweddol o Asia Leiaf. Erys sawl adeilad gwych o'r cyfnod hwnnw yn yr hen ddinas. Cofnodir i'r Pla Du gyrraedd y ddinas yn y flwyddyn 1347, ar ei ffordd i Ewrop. Cipiwyd Trebizond gan Mehmet y Cwncwerwr yn 1461. Ar ymyl y ddinas mae hen eglwys Fyzantaidd Santa Sophia yn sefyll mewn lecyn prydferth. Sefydlwyd prifysgol yno yn 1980. Adeiladau a chofadeiladau
Enwogion
Oriel
|
Portal di Ensiklopedia Dunia