Tim Bevan
Cynhyrchydd ffilm sydd wedi ennill Gwobrau'r Academi ydy Tim Bevan, CBE (ganed 1958, Queenstown, Seland Newydd). Sefydlodd y cwmni "Working Title Films" yn Llundain ar y cyd gyda Sarah Radclyffe yn ystod y 1980au. Mae'r ffilmiau lle gweithiodd Bevan fel cynhyrchydd neu uwch-gynhyrchydd yn cynnwys Moonlight and Valentino, Fargo, O Brother, Where Art Thou?, Captain Corelli's Mandolin, Love Actually, Notting Hill, Elizabeth, Bridget Jones's Diary, Atonement, a Frost/Nixon. Ysgarodd Bevan o'i wraig gyntaf sef yr actores Seisnig Joely Richardson; mae ganddynt ferch, Daisy, a anwyd ym 1992. Mae ef bellach yn briod â Amy Gadney, ac mae ganddynt ferch Nell, ganwyd yn 2001 a mab Jago, a anwyd yn 2003. Tim Bevan yw cyd-gynhyrchydd y sioe gerdd Billy Elliot yn y West End. |
Portal di Ensiklopedia Dunia