TikTok
Ap cyfryngau cymdeithasol ar gyfer creu a gwylio fideos byr a darlledu byw yw TikTok. ManylionAp cyfryngau cymdeithasol yw TikTok sy'n cael ei ddefnyddio ar gyfer fideos byr. Mae hefyd yn cael ei adnabod fel Douyin yn Tsieina. Mae TikTok yn caniatáu i ddefnyddwyr greu fideos byr 15 eiliad o hyd, ac maent yn cynnwys amrywiaeth eang o ffurfiau a thechnegau, gan gynnwys cerddoriaeth, dawns, comedi a meim (neu 'lip-sync').[1][2] HanesCafodd TikTok ei lawnsio ym Medi 2016 gan ByteDance, cwmni a aeth yn ei flaen yn Nhachwedd 2017 i brynu'r llwyfan musical.ly a'i gyfuno â TikTok yn Awst 2018.[3][4] Mae TikTok yn un o'r prif lwyfannau yn Asia ar gyfer creu a rhannu fideos byrion, ac mae wedi ymledu i rannau eraill o'r byd. Mae'n gymuned enfawr sy'n ymestyn ar draws nifer o wledydd ac yn un o'r apiau sy'n tyfu gyflymaf yn y byd.[5][6] Yn 2018, roedd gan yr ap dros 500 miliwn o ddefnyddwyr mewn 150 o wledydd o amgylch y byd.[7] Cyfeiriadau
|
Portal di Ensiklopedia Dunia