Thomas Stephens
Hanesydd, beirniad ac awdur o Gymru oedd Thomas Stephens (21 Ebrill 1821 - 4 Ionawr 1875). Fe'i cofir yn bennaf fel awdur y llyfr dylanwadol The Literature of the Kymry (1849). BywgraffiadGaned ef ym Mhont Nedd Fechan, Morgannwg (de Powys heddiw), yn fab i grydd. Dim ond tua tair blynedd o addysg ffurfiol a gafodd, cyn mynd yn brentis i fferyllydd yn nhref Merthyr Tydfil yn 1835. Yn ddiweddarach daeth yn berchen ar y siop fferyllydd ac yn ŵr amlwg ym mywyd y dref; ef oedd prif sylfaenydd Llyfrgell Merthyr. Daeth yn amlwg fel eisteddfodwr, ac yn Eisteddfod y Fenni yn 1848 enillodd wobr am draethawd ar lenyddiaeth Cymru yng nghyfnod y Gogynfeirdd. Hwn oedd sail ei lyfr diweddarch, The Literature of the Kymry. Yn Eisteddfod Fawr Llangollen yn 1858, collodd y wobr am draethawd ar ddarganfyddiad America gan Madog am fod ei draethawd ef yn casglu nad oedd gwir yn y chwedl; cyhoeddwyd hwn yn ddiweddarch. Cyhoeddiadau
Cyfeiriadau |
Portal di Ensiklopedia Dunia