Thomas Richards (Tasmania)
Roedd Thomas Richards (1800 – 18 Gorffennaf, 1877) yn feddyg o Gymru a ymfudodd i Tasmania lle fu yn un o sylfaenwyr newyddiaduraeth yn y wlad.[1] CefndirGanwyd Richards yn Nolgellau yn blentyn i Thomas Richards, cyfreithiwr ac Elizabeth (neé Highway) ei wraig. Nid oes cofnod o union ddyddiad ei eni ond fe'i bedyddiwyd yn Eglwys St Mair, Dolgellau ar 10 Gorffennaf 1800.[2] TeuluPriododd Hannah Elsemere (née Adams) ar 26 Tachwedd 1828 yn St Pancras, Llundain;[3] cawsant fab a thair merch. GyrfaCafodd Richards ei addysgu yn Christ's Hospital, Llundain rhwng 1809 a 1815. Bu wedyn yn brentis i feddyg ac yn mynychu clinigau yn Ysbyty St Bartholomew. Graddiodd gyda Thrwydded Cymdeithas yr Apothecariaid ym 1823. Am y naw mlynedd gyntaf wedi iddo dderbyn ei drwydded bu'n gweithio fel meddyg yn Llundain. Bu hefyd yn cyfrannu yn achlysurol i'r cylchgronau hynafiaethol a llenyddol fel The Cambro-Briton,The Monthly Magazine a'r British Register.[4][5] Ym 1832 cafodd Richards swydd fel meddyg llong ar long oedd yn teithio i Awstralia. Aeth ei wraig a'i blentyn gydag ef ar y daith gan fod y teulu am sefydlu yn Awstralia ar ddiwedd y daith. Cyrhaeddodd tref Hobart ym mis Hydref 1832. Sefydlodd meddygfa yn Elizabeth Town, Tasmania. Ychydig wedi iddo gyrraedd Tasmania sefydlodd Henry Melville (1799-1873) y cylchgrawn Hobart Town Magazine.[6] Bu Richards yn olygydd a chyfrannwr rheolaidd i'r cylchgrawn yn ystod ei oes fer rhwng Mawrth 1833 ac 1834. Parhaodd i fod yn feddyg hyd 1836, er ei fod wedi bod yn gweithio fel clerc i Adran Syrfëwr Tref Hobart rhwng 1834 a 1837. Rhwng 1837 a 1847 bu'n gweithio fel prif ohebydd y papur The Colonial Times. Wedi ymweliad a Phrydain rhwng 1847 a 1848 dychwelodd i Tasmania gan weithio eto fel meddyg am gyfnod. Yn hwyrach yn ei oes aeth yn ôl i newyddiadura fel gohebydd a phrawf ddarllenydd i'r Hobart Mercury, gan barhau yn y swydd hyd ei farwolaeth.[4] Am ei gyfraniad hir i newyddiaduraeth ar yr ynys mae Richards yn cael ei adnabod fel tad gwasg Tasmania.[7] LlenorRoedd Richards yn feirniad drama gyntaf Awstralia ac yn arloeswr y stori fer.[8] Cyhoeddwyd y rhan helaethaf o waith llenyddol adnabyddadwy Richards yn y Hobart Town Magazine. Roedd o leiaf hanner ei gynnwys yn gerddi, traethodau, adolygiadau, brasluniau a straeon byrion ganddo ef. Mae'n anodd gwneud rhestr gyflawn o'i weithiau lenyddol gan ei fod yn aml yn ysgrifennu o dan ffugenwau, er mwyn cuddio faint o gynnwys y papurau oedd wedi dod o'i ysgrifbin ef. Roedd 'Mervinius', 'Edward Trevor Anwyl' a 'Peregrine' ymysg yr enwau byddai'n defnyddio.[5] Roedd cefndir Cymreig i fwyafrif o'i straeon byrion ac wedi gosod ym Meirionnydd ei blentyndod.[9] Yn 2017 casglodd a golygodd Rita Singer nifer o'i straeon Cymreig am y tro cyntaf a'u cyhoeddi fel Rob the Red-Hand and Other Stories of Welsh Society and Scenery. [10] MarwolaethBu farw yn Portsea Place, Hobart yn 77 mlwydd oed.[11] Cyfeiriadau
|
Portal di Ensiklopedia Dunia