Thomas Price (Carnhuanawc)
Hanesydd, hynafiaethydd a llenor o Gymru oedd Thomas Price neu Carnhuanawc (2 Hydref 1787 – 7 Tachwedd 1848), a aned ym mhlwyf Llanfihangel Bryn Pabuan, Brycheiniog. BywgraffiadRoedd 'Carnhuanawc' yn wladgarwr, yn areithiwr huawdl yn y Gymraeg a'r Saesneg ac yn ysgrifennwr ar bynciau hynafiaethol. Dethlir ei fywyd, ei waith a'i weledigaeth gan Gymdeithas Hanes Carnhuanawc. Roedd yn un o'r ffigurau amlycaf ym mywyd diwylliannol Cymru yn y 19g. Sefydlodd gymdeithasau llenyddol Cymraeg yn Aberhonddu (1823) a'r Fenni (1833). Cafodd ddylanwad mawr ar Augusta Hall, Arglwyddes Llanover, a ddaeth yn noddwraig y bywyd Cymreig yn yr ardal a thrwy Gymru. Cynorthwyodd yr Arglwyddes Charlotte Guest i gyfieithu'r Mabinogi ar gyfer ei gyfrol dylanwadol The Mabinogion. Roedd yn un o sefydlwyr y cylchgrawn hynafiaethol The Cambrian Quarterly Magazine yn ogystal. Helpodd, drwy The Welsh Minstrelsy Society, y bu'n gyfrifol am ei sefydlu, i sicrhau bod llawysgrifau amhrisiadwy o'r Oesoedd Canol yn cael eu diogelu ac yn cael eu hastudio. Cymerodd rhan yng ngwaith y Welsh Manuscripts Society a gorffenodd olygiad Taliesin Williams o ran o waith ei dad Iolo Morganwg a gyhoeddwyd fel The Iolo Manuscripts. Ei orchest fwyaf oedd ei lyfr Hanes Cymru a Chenedl y Cymry o'r Cynoesoedd hyd at Farwolaeth Llywelyn ap Gruffydd, sef yr ymgais gyntaf i olrhain gwreiddiau a datblygiad y genedl Gymreig mewn modd systematig wyddonol. Fe'i cyhoeddwyd mewn rhannau rhwng 1836 a 1842. Dangosodd i bobl Cymru eu lle yn hanes Ewrop fel etifeddwyr a dehonglwyr llenyddol, cerddorol ac artistig y traddodiad Celtaidd. Yn ogystal â bod yn hanesydd, roedd Carnhuanawc yn draethodydd, areithiwr, addysgwr, hynafieithydd, ieithydd, arlunydd a cherddor. Roedd yn gyfranwr toreithiog i gylchgronnau addysgiadol a phoblogaidd. Roedd yn ffigwr o bwys yn atgyfodi'r Eisteddfod a defnyddiodd ei llwyfan i hyrwyddo parch ac anogaeth tuag at iaith a thraddodiadau'r Cymry. Dadleuodd dros gael addysg ar bobl lefel, o ysgol y pentref i'r brifysgol, drwy gyfrwng y Gymraeg. O'i gartref yn Llanfihangel Cwm-du ym Mrycheiniog lle roedd yn offeiriad plwyf, ysgrifennai at ddeallusion ledled Ewrop yn chwilio am wreiddiau Celtaidd ei bobl. Roedd ganddo ddiddordeb yn lles diwylliannol ac ysbrydol cefndryd Celtaidd y Cymry, sef y Llydawyr, a dysgodd Lydaweg. Cydweithiai gyda Le Gonidec i gyfieithu'r Beibl i'r Llydaweg. Roedd hefyd yn gyfaill agos i Villemarque (Kervarker), ffigwr llenyddol o bwys yn Llydaw ar y pryd, a chasglwr a golygydd y gyfrol Barzaz Breiz, ac fe'i gwahoddodd i gyfres o eisteddfodau tra llwyddiannus yn Y Fenni ynghŷd ag i gwrdd â sawl arweinydd diwylliannol a diplomataidd o bwys o Ewrop a thu hwnt. Gellir dweud i Carnhuanawc roi yn ôl i'r Cymry yr ymdeimlad o'u lle mewn hanes ac yn y byd. Parha ei fywyd i ysbrydoli pobl Cymru i ymladd am ymwybyddiaeth ehangach o'u hunaniaeth ac am barch a defnydd teilwng i'w hiaith a'u diwylliant a'u llenyddiaeth. GwerthfawrogiadSefydlwyd Cymdeithas Carnhuanawc - cymdeithas hanes Gymraeg - yng Nghaerdydd gan Alan Jobbins ac eraill yn 1990. Mae'r Gymdeithas yn trefnu darlith flynyddol yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn ogystal â darlithoedd yng Nghaerdydd a theithiau hanesyddol. Llyfryddiaeth
Dolenni allanol
|
Portal di Ensiklopedia Dunia