Thomas Jones (arlunydd)
Roedd Thomas Jones (26 Medi 1742 – 29 Ebrill 1803) yn arlunydd o Gymru ac yn ddisgybl i Richard Wilson. Fe'i ganed ym mhlwyf Cefn-llys, ym Maesyfed, Powys, ond cafodd ei fagu ym mhlas Pencerrig ger Llanelwedd. Ei lun enwocaf efallai yw Y Bardd (1774), llun sy'n crynhoi agweddau Rhamantaidd y cyfnod am orffennol "Gwyllt Walia". Blynyddoedd cynnarRoedd ei rieni yn gobeithio y buasai'n cymryd Urddau Eglwysig ond roedd ei awydd i beintio'n rhy gryf. Cafodd ei anfon i Goleg Iesu, Rhydychen i astudio ar gyfer yr eglwys ond gadawodd yn 1761 i ddilyn gyrfa fel arlunydd. Daeth yn ddisgybl i Richard Wilson tra yn Llundain. Yr EidalFel y mwyafrif o artistiaid y cyfnod o wledydd Prydain, aeth ar daith i'r Eidal yn ei lencyndod er mwyn cael ei addysgu yn nhechnegau'r Hen Feistri. Tra yn Napoli a Rhufain gwnaeth gyfres o beintiadau olew o strydoedd anhysbys a waliau tu cefn, yn dra wahanol i'r tirweddau crand, confensiynol yr oedd peintwyr fel ei athro yn arbenigo ynddynt. Daeth i adnabod yr alunydd Seisnig o dras Eidalaidd Francesco Renaldi, a baentiodd lun o Thomas Jones gyda'i deulu. Cyfaill arall oedd yr arlunydd Giuseppe Marchi, a baentiodd bortread o Thomas Jones; dyma'r unig bortread o'r arlunydd sydd ar gael. Ceir nifer o enghreifftiau o'i baentiadau yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ac yn Oriel Genedlaethol Llundain. Maent yn weithiau o flaen eu hamser ac ni welwyd ffresni o'r fath mewn tirluniau hyd nes ddyfodiad Camille Corot a pheintwyr yr ysgol Barbizon yn y 19g. PencerrigAr ôl treulio dwy flynedd ar bymtheg ar y cyfandir, dychwelodd Thomas Jones i fyw yn ei fro enedigol yn 1789. Mae ei luniau o ardal Pencerrig, sy'n dyddio o'r cyfnod olaf hwnnw yn ei oes, ymhlith ei orau. Dolenni allanol
|
Portal di Ensiklopedia Dunia