Thomas Jones (Y Bardd Cloff)
Roedd Thomas Jones (Y Bardd Cloff) (15 Mai 1768 – 19 Chwefror 1828) yn fardd Cymreig.[1] CefndirGanwyd Y Bardd Cloff yn Llandysilio-yn-lâl [2], Sir Ddinbych yn blentyn i John Jones ac Elizabeth ei wraig.[3]. Yn ystod ei blentyndod cynnar ddioddefodd damwain a adawodd yn gloff ac a rhoddodd ei enw barddol iddo yn ddiweddarach yn ei fywyd. GyrfaYn bymtheg oed symudodd i Lundain i weithio fel cyfrifydd i Mathew Davies, gwneuthurwr coetsis yn 90 Long Acre, Llundain. Cafodd holl ofal masnach swyddfa Mathew Davies ym 1803 ac erbyn 1813 roedd wedi dod yn bartner yn y gwaith.[1] BarddAm gyfnod hir bu cysylltiad agos rhwng Jones a Chymdeithas Gwyneddigion Llundain. Etholwyd ef yn aelod yn 1789; gweithredodd fel ysgrifennydd y gymdeithas ym 1790 a 1791 a bu'n llywydd am dri thymor, yr achlysur olaf ym 1821. Roedd yn gyfeillgar iawn â John Jones, (Jac Glan-y-gors), Siôn Ceiriog ac Edward Charles (Siamas Gwynedd),[4] a chanodd gywydd iddynt hwy ac eraill wedi i Siamas ddyfod yn rhydd o garchar lle bu yn hir am ddyled Cywydd a ddanfonodd y bardd o garchar lle y bu yn hir am ddyled.[5] Canodd awdl i ddathlu pen-blwydd y Gwyneddigion ym 1799, a gyhoeddwyd yn Gymraeg a Saesneg, ac Awdl ar Ddydd Gŵyl Dewi Sant ar ei chyfer ym 1802. Ar adeg dathlu jiwbilî'r Gwyneddigion, anrhegwyd Y Bardd Cloff â bathodyn arian y gymdeithas. Enillodd Jones sawl gwobr yn yr eisteddfodau hefyd. MarwolaethBu farw yn gartref 90 Long Acre, Llundain, yn 59 mlwydd oed a chladdwyd ei weddillion ym mynwent Eglwys St Martin-in-the-Fields. Canwyd marwnad iddo gan Robert Davies (Bardd Nantglyn) a wobrwywyd gyda medal arian gan Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion.[2] Cyfeiriadau
|
Portal di Ensiklopedia Dunia