Thomas Evans (Tomos Glyn Cothi)
Gweinidog, heddychwr, bardd a llenor Cymraeg o Sir Gaerfyrddin oedd Thomas Evans, a adnabyddir yn aml fel Tomos Glyn Cothi (20 Mehefin 1764 – 29 Ionawr 1833). Roedd yn bleidiol i egwyddorion y Chwyldro Ffrengig, yn un o sylfaenwr Undodiaeth yng Nghymru, yn fardd ac yn awdur sawl llyfr.[1] BywgraffiadGaned Tomos mewn bwthyn o'r enw Capel Sant Silyn, ger pentref Gwernogle, gogledd Sir Gaerfyrddin, ar 20 Mehefin 1764, yn fab i Ifan John a'i wraig a'r trydydd o'u chwech o blant. Dysgodd ddarllen ac ysgrifennu Cymraeg ar yr aelwyd a chafodd grap ar ddarllen Saesneg mewn ysgol leol cyn mynd i ysgol yn Abertawe. Dychwelodd i'w fro wedyn a dilynodd grefft gwehydd, fel ei dad.[1] Enillodd ei awydd am wybodaeth nawdd boneddigion lleol a chafodd fenthyg llyfrau gan bobl fel yr ysgolhaig y Dr Joseph Priestley. Undodiad oedd Priestley, a daeth Tomos i feithrin ei syniadau ef. Aeth i wasanaethu capel Ariaidd Alltyblaca, ger Llanybydder. Yno daeth dan ddylanwad Dafydd Dafis, Castell Hywel.[1] Priododd a chafodd chwech o blant. Dechreuodd bregethu yn ei gartref, dan drwydded. Yn 1796 codwyd Tŷ Cwrdd Cwm Cothi ar lannau afon Cothi, capel cyntaf yr Undodiaid Cymreig. Pregethodd yno a daeth ei enw yn gyfarwydd i lawer.[1] Ym mis Awst 1801, â llywodraeth Prydain yn dal i ofni canlyniadau'r Chwyldro Ffrengig, carcharwyd Tomos am ddwy flynedd yng ngharchar Caerfyrddin am gefnogi egwyddorion y chwyldro hwnnw. Treuliodd ei amser yno yn ysgrifennu geiriadur Saesneg-Cymraeg (cyhoeddwyd 1809).[1] Yn 1811 derbyniodd alwad i ddod yn weinidog yr Hen Dŷ Cwrdd yn Aberdâr. Cyhoeddodd sawl llyfr, cyfieithiadau o destunau Undodaidd Saesneg gan fwyaf. Roedd yn fardd hefyd a gyfansoddodd nifer o gerddi ar y mesurau rhydd yn lladd ar ryfel a brenhinoedd a chlodfori rhyddid. Cyhoeddodd gasgliad o gant o emynau at wasanaeth yr Undodiaid (1811).[1] Cyhoeddiadau
Cyfeiriadau |
Portal di Ensiklopedia Dunia