Theodor Herzl
Roedd Theodor Herzl (Hebraeg: תאודור הרצל; Hwngareg: Herzl Tivadar; 2 Mai 1860 – 3 Gorffennaf 1904) yn ymgyrchydd, gweledydd, newyddiadurwr, awdur a chyfreithiwr Iddewig a aned yn Hwngari ond a ystyrir yn Awstriad. Gwelir ef fel tâd mudiad Seioniaeth gyfoes. Bywgraffiad![]() Ganed Herzl yn Pest, sydd bellach yn rhan ddwyreiniol o ddinas o phrifddinas Hwngari, Budapest i deulu Iddewig Ashkenasi. Magwyd ef yn siarad Almaeneg ond nid Iddeweg. roedd yn gallu siarad Hwngareg hefyd. Mae'r stryd y ganwyd ef ynddi, Tabakgasse (yr enw swyddogol ar y pryd, ond yr enw Hwngareg Dohány utca wedyn) sydd bellach yn Amgueddfa Iddewig. Roedd y tŷ drws nesa i'r Synagog Fawr, sef y synagog fwyaf yn Ewrop.[1] Ar ôl cwblhau ei astudiaethau yn y Gymnasiwm Efengylaidd yn Budapest, ac wedi marwolaeth sydyn ei chwaer, Paula yn 1978, symudodd i ardal Fienna i astudio cyfraith a llenyddiaeth, gan gymryd ei doethuriaeth yn ôl y gyfraith yn 1884. Yn y Brifysgol roedd yn aelod o urdd genedlaetholgar geidwladol gyda'r arwyddair Ehre, Freiheit, Vaterland ("Anrhydedd, Rhyddid, Mamwlad"), yr Albia ond ymddiswyddodd mewn protest dros ei hagweddau gwrth-semitig. Serch hynny, roedd Herzl yn Germanoffil ac yn dymuno ei weld fel aelod o'r diwylliant Almaeneg ei hiaith a'i hagwedd. Ni roddai lawer o fri ac ystyriaeth i'w hunaniaeth Iddeweg. GermaniffilMae'n bwysig nodi bod Herzl yn Germanoffil cryf pan oedd yn wr ifanc ac yn dymuno ei weld fel aelod o'r diwylliant Almaeneg ei hiaith a'i hagwedd. Ni roddai lawer o fri ac ystyriaeth i'w hunaniaeth Iddeweg. Gwelai'r Almaenwyr fel y Kulturvolk (cenedl ddiwylliannol) flaenaf yng Nghanolbarth Ewrop[2] a cofloediodd y ddelfryd Almaenig o'r Bildung, lle byddai person, wrth ddarllen gweithiau a llenyddiaeth uchel fel Goethe a Shakespeare yn dod i werthfawrogi pethau prydferth bywyd a dod yn berson gwell yn foesol (hafalau y feddylfryd Bildung prydferchwch gyda daioni).[3] Trwy Bildung, credai (neu, efallai gobeithiau) Herzl y gallai Iddew Hwngareg fel efe, ddiosg ei "nodweddion Iddewig cywilyddus" a grwyd gan ganrifoedd o dlodi a gorthrwm, a dod yn pobl gwar Canol Ewropeaidd, yn wir Kulturvolk ar hyd llinellau'r Almaenwyr.[3] Teulu Herzl![]() Priododd Herzl â Julie Naschauer, Iddewes o deulu gyfoethog yn Fienna, ar 25 Mehefin 1889. Doedd eu priodas ddim yn un hapus, yn rannol oherwydd bod Herzl mor agos i'w fam, nad oedd yn hoff o Julie. Doedd gen i wraig fawr o ddiddordeb yn ei gennad wleidyddol. Bu iddynt 3 o blant, Paula, Hans a Margaritha (Trude). Roedd Paula yn dioddef o isleder meddyliol ac yn gaeth i heroin. Bu farw yn 1930 yn 40 oed. Magwyd Hans fel cenedl-ddyn a bu'n ymgodymu gyda'i ffydd a'i hunaniaeth. Saethodd ei hun ar ddiwrnod angladd ei chwaer, Paula, roedd yn 39 oed yn marw. Lladdwyd Trude yng ngwersyll angau Theresienstadt yn 1943. Hebryngwyd unig ddisgynnydd Herzl, Stephan Theodor Neumann, mab Trude, i Loegr yn 1935 i ffoi rhag tŵf gwrth-semitiaeth yn Awstria. Newidiodd ei enw i Norman a bu'n ymladd gyda byddin Prydain yn yr Ail Ryfel Byd. Ymwelodd â Phalesteina ar ddiwedd 1945 a dechrau 1946 gan ysgrifennu am ei brofiad a gyda'r bwriad i ddychwelyd. Yn anffodus, oherwydd cymhlethdodau teithio i Balesteina yn hwyrach yn 1946, yn ddiwaith, yn ddigroeso gan elfennau o heirachiaeth y mudiad Seionaidd a wela ef, efallai fel her iddynt, ac yn ddigalon o glywd hanes marwolaeth ei deulu yn y Rhyfel, lladdodd ei hun ar 26 Tachwedd 1946 drwy neidio oddi ar bont Massachusetts Avenue yn Washington, D.C. DreyfusYn 1891 daeth Herzl yn ohebydd Paris o'r papur newydd Awstriaid, y Neue Freie Presse. Ym Mharis, dilynodd a gohebodd ar sgandal wledidyddol yr oes, Affair Dreyfus lle diarddelwyd milwr Iddewig o fyddin Ffrainc ar amheuaeth o ysbïo i'r Almaenwyr. Synwyd a brawychwyd Herzl gan y sylwadau a'r sarhâd gwrth-Semitaidd a daflwyd at Dreyfus gan rhannau o'r wasg, gwleidyddion, a chymdeithas Ffrainc. Doedd heb ddisgwyl y fath ymateb gan wlad 'gwâr' fel Ffrainc. Credir gan rai i Affair Dreyfus fod yn lai o ddylanwad ar Herzl ag y credwyd ar un adeg. Yn ôl rhai, roedd Herzl yn credu fod Dreyfus yn euog ond fod Herzl wedi ei ddychryn gan banllefain "marwolaeth i'r Iddewon" gan y torfeydd. Credir bod tŵf y gwleidydd gwrth-Semitaidd Karl Lueger yn Fienna yn 1895 effaith fwy arno, ac yn wir, ysgrifennodd ddrama Die Neues Ghetto ("Y Geto Newydd") ar y pwnc. Dylid cofio hefyd tua'r un cyfnod, gwelwyd progromau gwrth-Iddewig yn Rwsia lle lladdwyd ugeiniau o bobl a helwyd nifer mwy o'u cartrefi. Beth bynnag yr union wreichiogyn, gwelwyd dro pedol ym mywyd Herzl wrth iddo ystyried ei hunaniaeth a pha mor sydyn y gall cenedl-ddynion droi ar Iddewon. Daeth i gredu nad oedd modd i'r Iddewon ymdreiddio ac i gredu bod angen i'r Iddewon ymddihatru eu hunain oddi wrth Ewrop er mwyn byw'n rhydd.[4] O ganlyniad i hyn, dechreuodd grisialu syniadaeth a ddaeth yn Seioniaeth ac a oedd yn cyniwair ymysg rhai Iddewon eraill tua'r un adeg ac ychydig cyn hyn.[5] Gwleidyddiaeth![]() ![]() Ym 1896 cyhoeddodd ei bamffled chwyldoradol, Der Judenstaat ("Y Wladwriaeth Iddewig"). Ynddo mae'n argymell ac yn rhoi canllaw ar sefydlu gwladwriaeth benodol i'r Iddewon er mwyn iddynt fyw a llewychu mewn heddwch. Crisialau ei syniad fod yr Iddewon yn genedl (nid yn dim ond yn grefydd) ac bod angen tiriogaeth arni fel pob cenedl arall er mwyn ffynnu yn rhydd fel cymdeithas a chrefydd ac yn rhydd o wrth-Semitiaeth. Ei obaith oedd y byddai llwydraethau Ewrop yn deall hyn hefyd ac yn gweld y syniad o Wladwriaeth Iddewig o fantais iddynt hwythau gan y byddai'n tynnu'r Iddewon allan o Ewrop yn tynnu ymaeth yr achos dros wrth-Semitiaeth. Roedd y llyfryn yn sbardun i sefydlu y mudiad gwleidyddol Seioniaeth yn 1897, a oedd yn ceisio arwain Wladwriaeth Iddewig. MarwolaethAr ôl ei farwolaeth, claddwyd ei gorff nesaf i'w dad yn Döbling cyn cael ei drosglwyddo - yn unol â'i ddymuniadau ewyllysiol - ym 1950 yn Jerwsalem, lle cafodd ei gladdu ar fryn yn ei anrhydedd ei enw Bryn Herzl. Ar y daith ddiwethaf y Pâb Ffransis ag Israel, ymlweodd â bedd Herzl. Dyma'r tro cyntaf i unrhyw Bâb ymweld ag hi. SeioniaethYnghyd â Max Nordau, Herzl yw tad Seioniaeth a sylfaenydd y mudiad Seionaidd a ffurfiwyd yn y Gyngres enwog yn Basel ym 1897, lle cafodd ei ethol yn llywydd. Cefnogodd hawl yr Iddewon i sefydlu gwladwriaeth Iddewig, lle bynnag y bo'n bosibl ym Mhalestina. Dylai'r famwlad hwn groesawu'r Iddewon a oedd am symud yno neu na allent fyw'n heddychlon yn y wlad lle'r oeddent yn byw. Camau a Champau Herzl![]() Mewn cyfnod rhwng cyhoeddu Der Judenstaat ar ddechrau 1896 a'i farwolaeth yn 44 oed yn 1904, roedd Herzl yn ffigwr a ffwlcrwm i gyfnod rhyfeddol o deithio, gwleidydda, ysgrifennu a chyfarfodydd. Ac hynny yn dreth ar ei iechyd, ei deulu a'i gyfoeth. Credai Herzl ei fod yn holl bwysig i lwyddiant ei fenter ei fod yn cael cefnogaeth pwerau mawrion Ewrop. Credai hefyd fod cael ei weld yn trafod Gwladwriaeth Iddewig gyda brenhinoedd ac ymerodraethwyr yn dyrchafu'r fenter ym meddwl yr Iddewon eu hunain. Ceir amserlen bras o'i weithgaredd wleidyddol yma.[6]
Diwrnod HerzlDethlir Diwrnod Herzl (Hebraeg: יום הרצל) fel gwyliau cenedlaethol o gyflwr Israel. Mae'n disgyn ar y degfed dydd o'r mis Hebraeg Iyar (gall fod rhywbryd rhwng Ebrill a Mehefin), i goffáu bywyd a meddwl am yr arweinydd Seionaidd.[1] Manau sy'n Anrhydeddu Herzl
Herzl a ChymruBu i Herzl wneud ymweliad byr iawn â Chaerdydd yn 25 Tachwedd 1895 i ymlwed â Colonel A. E. W. Goldsmid,[8] sefydlydd y Jewish Lads’ Brigade, y Maccabaeans. a phennaeth Chofefei Tzion ym Mhrydain ac Iwerddon a oedd wedi symud i Gaerdydd yn 1894 i fod yn uchel-swyddog yn y Fyddin Brydeinig. Cymerodd Goldsmid ran yn yr alldaith i Al 'Arish.[9] ac aeth hefyd cyn hynny i weld ymdrechion gwladychu Iddewig yn yr Ariannin ac yna Palesteina. Roedd Herzl yng Nghaerdydd fel rhan o daith hwy gan ymweld ag Iddewon y ddinas am un noson. Arohosodd Herzl yn nhŷ Goldsmid, The Elms.[8] Dewisiodd David Lloyd George fel gyfreithiwr, i ddelio â'r gwaith o sicrhau tiriogaeth i'r Iddewon yn Al 'Arish, Sinai yn ystod ei drafodaethau gyda Llywodreth Prydain yn 1903. Dyddirol nodi i Lloyd George fod yn Brif Weinidog Cymru pan trosglwyddwyd Palesteina i feddiant Prydain ac yn 'Gartrefwlad i'r Iddewon' yn 1917. Llyfryddiaeth Herzl![]() Yn ychwanegol i'r llyfryddiaeth eang, dylid cofio i Herzl gyfrannu cannoedd o erthyglau i'r wasg. Llyfrau
Dramâu
Cyfeiriadau
Dolenni allanol |
Portal di Ensiklopedia Dunia