The Catcher in the Rye
![]() Mae The Catcher in the Rye (1951) yn nofel gan J. D. Salinger. Yn wreiddiol, cafodd ei chyhoeddi ar gyfer oedolion [1] ond bellach mae'n rhan gyffredin o feysydd llafur ysgolion uwchradd a cholegau. Mae'r nofel wedi ei chyfieithu i'r mwyafrif o brif ieithoedd y byd [2]. Gwerthir oddeutu 250,000 o gopïau yn flynyddol, gyda'r cyfanswm o'r nifer o gopïau sydd wedi'u gwerthu hyd yn hyn dros chwechdeg pum miliwn. Mae gwrth-arwr y nofel, Holden Caulfield, wedi datblygu i fod yn eicon ar gyfer arddegwyr gwrthryfelgar. Dewisodd cylchgrawn Time y nofel fel un o'r nofelau Saesneg gorau a ysgrifennwyd rhwng 1923 a 2005 [3] a chan y Llyfrgell Fodern a'i darllenwyr fel un o'r cant o nofelau gorau o'r 20g. Mae nifer yn yr Unol Daleithiau wedi ceisio herio a chwestiynu cynnwys y nofel yn sgîl ei hiaith gref a'r modd y mae'n darlunio rhywioldeb a phryderon dwys pobl ifanc yn eu glasoed. Roedd llofruddiaeth John Lennon gan Mark David Chapman ac ymgais John Hinckley, Jr. i ddienyddio Ronald Reagan, ynghyd â llofruddiaethau eraill wedi cael eu cysylltu â'r nofel [4][5] Cyfeiriadau
Dolenni Allanol
|
Portal di Ensiklopedia Dunia