Terry Dyddgen-Jones
Cyfarwyddwr a cynhyrchydd teledu o Gymro oedd Terry Dyddgen-Jones (Gorffennaf 1950 – 27 Mehefin 2018). Yn wreiddiol o Sir gaerfyrddin, roedd Terry'n fwyaf adnabyddus fel un o gyfarwyddwyr drama teledu rhwydwaith, ac am gynhyrchu ffilmiau ar gyfer BBC ac ITV. Bu’n gyfrifol am gyfarwyddo dros 200 o benodau o'r opera sebon Coronation Street, ac roedd hefyd yn adnabyddus yng Nghymru am gyfarwyddo cyfresi Parch a Byw Celwydd, ynghyd â’i waith fel uwch-gynhyrchydd Pobol y Cwm. Bu farw Terry Dyddgen Jones ddiwedd Mehefin yn Ysbyty Felindre, Caerdydd wedi salwch byr.[1] Ei fab yw'r canwr a cyfansoddwr Sion Russell Jones.[2] Bywyd cynnarFe'i ganwyd ym mhentref Crwbin, Sir Gaerfyrddin. Aeth i Ysgol Ramadeg Cwm Gwendraeth.[3] Ei enw bedydd oedd Terry Jones ond pan ymunodd ag Equity yn 1974 roedd rhaid iddo ddewis enw newydd er mwyn osgoi dryswch gyda'r digrifwr Terry Jones o Monty Python. Dewisodd yr enw Dyddgen am fod ei hen-ddad-cu wedi ei ddefnyddio fel enw barddol. Mae yna hefyd Gapel Dyddgen ger Crwbin.[2] Cychwynnodd ei yrfa fel athro drama yn Ysgol Glan Clwyd a bu'n gweithio gyda Clwyd Theatr Cymru yn y cyfnod hwn.[4] Gyrfa teleduYn y 1970au roedd yn gyflwynydd a chynhyrchydd rhaglenni Cymraeg gyda HTV Cymru. Bu hefyd yn actor, cynhyrchydd a chyfarwyddwr ar Pobol y Cwm. Bu'n cyfarwyddo penodau o'r gyfres ddrama Pam Fi Duw? yn y 1990au. Gweithiodd fel cyfarwyddwr ar rai o operâu sebon mwyaf y BBC ac ITV, yn bennaf ar dros 200 benodau ar Coronation Street rhwng 1997 a 2014. Gweithiodd am gyfnodau ar Hollyoaks, Eastenders ac Emmerdale hefyd. Yn fwy diweddar, bu'n cyfarwyddo ar y cyfresi drama Cymraeg Byw Celwydd a Parch. Bywyd personolRoedd yn briod a Judith ac roedd ganddynt dri plentyn, Leah, Jack, Sion.[5] AnrhydeddauEnillodd sawl wobr BAFTA am ei waith ar operâu sebon a dramâu. Anrhydeddwyr ef, wedi'i farwolaeth, gyda gwisg werdd yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Caerdydd 2018. Cyfeiriadau
Dolenni allanol |
Portal di Ensiklopedia Dunia