Ted Hughes
Awdur a bardd Seisnig a sgwennai ar gyfer oedolion a phlant oedd Edward James Hughes (Ted Hughes) OM (17 Awst 1930 – 28 Hydref 1998). Adnabyddir gan feirniaid llenyddol fel un o lenorion gorau ei oes.[1] Priododd y bardd Americanaidd Sylvia Plath yn 1956, ond fe hunanladdodd hi yn 1963 yn ddim ond 30 oed. Daeth ei ran y berthynas yn ddadleuol, yn ranol oherwydd rhai ffeminyddion ac yn arbennig, edmygwyr Amercanaidd Plath, a aeth mor bell hyd yn oed ai gyhuddo o lofruddiaeth.[2] Ni gymerodd Ted Hughes ei hun, ran yn y dadleuon yn gyhoeddus, ond dadlenodd y Birthday Letters (1998), eu perthynas cymhleth, ac i nifer, rhoddwyd ef mewn golau gwell o'i herwydd.[3] Fe'i penodwyd yn Fardd Llawryfog ym 1984, yn dilyn marwolaeth John Betjeman ac fe'i olynwyd gan Andrew Motion wedi marwolaeth Hughes. Porteadwyd ef yn 2003 gan yr actor Daniel Craig yn y ffilm Sylvia, ffilm fywgraffiadol am Sylvia Plath. Dyddiau cynnarGaned Ted Hughes ar 17 Awst, 1930 yn rhif 1, Aspinal Street, yn Mytholmroyd, Gorllewin Swydd Efrog a magwyd ef ymysg ffermydd yr ardal. Yn ôl Hughes, siapiodd hyn ei gymeriad ("My first six years shaped everything").[4] Yn saith oed, symudodd ei deulu i Mexborough, De Swydd Efrog, lle rhedon nhw siop paburau-newydd. Roedd ganddo frawd, Gerald, a oedd ddeng mlynedd yn hŷn nag ef, yn ogystal â chwaer, Olwyn, a oedd dwy flynedd yn hŷn. Bywyd personolAstudiodd Hughes Saesneg, anthropoleg ac archaeoleg yng Ngoleg Penfro, Caergrawnt. Ar yr un adeg, ymddangosodd ei farddoniaeth mewn cylchlythyr, St. Botolph's Review, ynghyd â gwaith cyd-fyfyrwyr; mewn parti i lawnsio'r cylchgrawn cyfarfu â Sylvia Plath. Priododd y ddau ar 16 Mehefin 1956, dim ond pedwar mis ar ôl cyfarfod. Blwyddyn yn ddiweddarach, symudodd y cwpl i orllewin Massachusetts yn yr Unol Daleithiau America. Gweithion nhw fel llenorion gwadd ym Mhrifysgol Massachusetts Amherst ac yng Ngholeg Smith. Wedi gwario cyfnod yn Boston, dychwelon nhw i Loegr yn Hydref 1959, gan symyd yn gyntaf i Lundain, ac yna i Ddyfnaint yn 1961 (Court Green, North Tawton). Cawson nhw ddau o blant ond gwahanod y cwpwl yn hydref 1962. Parhaodd Ted i fyw yn Court Green, gyda'i gariad Assia Wevill, ar ôl marwolaeth Plath ar 11 Chwefror 1963, ond yn y diwedd collodd y berthynas ei sglein iddo, a daeth i ymwneud â merched eraill. Fel gweddw Plath, daeth Hughes yn ysgutor ei hystadau llenyddol a phersonol. Goruchwyliodd gyhoeddiad ei llawysgrifau, gan gynnwys Ariel (1966). Hawliodd hefyd ei fod wedi dinistrio pennod olaf dyddiadur Plath, a ddisgrifiai eu misoedd olaf gyda'i gilydd. Yn ei ragair i The Journals of Sylvia Plath, mae'n amddiffyn hyn drw ddweud fod yn rhaid iddo ystyried effaith y sgwennu ar eu plant ifanc. Chwe mlynedd ar ôl hunanladdiad Plath gan ddefnyddio stof nwy, ar 25 Mawrth 1969, lladdodd Assia Wevill ei hun a Shura (ei merch bedair oed); roedd Shauna (Alexandra Tatiana Elise), a aned 3 Mawrth 1965 yn ferch i Hughes. Yn Awst 1970 priododd Hughes unwaith eto, gyda nyrs o'r enw Carol Orchard. Arhosant gyda'i gilydd (er gwaethaf sawl carwriaeth ar ei ran ef drost y blynyddoedd), hyd ei farwolaeth. Derbyniodd Order of Merit gan Frenhines Elisabeth II o Loegr ychydig cyn ei farwolaeth. Daliodd Ted Hughes i fyw yn ei dŷ yn Nyfnaint, hyd at ei farwolaeth (trawiad i'r galon) ar 28 Hydref 1998, tra'n cael triniaeth yn erbyn cancr y colon. Cynhaliwyd ei angladd yng nghapel North Tawton, ac amlosgwyd ef yng Nghaerwysg. Gwasgarwyd ei ludw ar Dartmoor, yn agos at Cranmere Pool (gyda chaniatâd brenhinol). Yn siarad yn angladd Ted Hughed yn North Tawton 3 Tachwedd 1998, dywedodd Seamus Heaney: "No death outside my immediate family has left me feeling more bereft. No death in my lifetime has hurt poets more. He was a tower of tenderness and strength, a great arch under which the least of poetry's children could enter and feel secure. His creative powers were, as Shakespeare said, still crescent. By his death, the veil of poetry is rent and the walls of learning broken." [5] Mae llwybr coffa ym mhentref Belstone yn arwain at garreg goffa ger Afon Taw a roddwyd yno yn 2005 ar dir sy'n berchen i Ddugiaeth Cernyw[6]. Mae'r cofeb granite rhywfaint yn ddadleuol yn lleol; yn ôl rhai ffynonellau, cariwyd yno drwy'r awyr gan ddefnyddio hofrennydd y Tywysog Siarl, anrhydedd na'i dderbynwyd gan unrhyw berson arall o Ddyfnaint.[7] YsgrifennuSeilwyd gwaith cynnar Hughes ar natur, yn arbennig, anwaraiaid diniwed anifeiliaid (bron y gallai geiriad Tennyson "nature, red in tooth and claw" fod wedi ei sgwennu yn arbennig ar gyfer Hughes). Mae ei waith diweddarach yn dibynnu ar fytholeg a thraddodiad barddonol, wedi ei dreiglo'n drwm gan farn modernwr, dirfodol a sarhaus. Denodd ei gasgliad cyntaf, Hawk in the Rain (1957) feirniadaeth canmolig. Enillodd wobr Galbraith yn 1959 a ddaeth ynghyd â $5000. Ei waith pwysicaf efallai, oedd Crow (1970), mae wedi ei ganmol ond ar yr un adeg mae wedi hollti barn, gan gyfuno barn datguddiadol, hallt, sinigaidd a afreal o fydysawd, a welir yn syml ond gyda'r olwg weithiau o benillion wedi eu cyfansoddi'n wael. Mae Tales from Ovid (1997) yn cynnwys dweisiad o gyfieithiad penillion rhydd Metamorphoses gan Ofydd. Yn y gyfrol Birthday Letters, torodd Ted Hughes ei dawelch ynglŷn â Sylvia Plath, gan ddisgrifio elfennau o'u bywyd â'u gilydd a'i ymddwyn ef ar y pryd. Arlunwyd y clawr gan eu march Frieda. Yn ogystal â barddoniaeth ysgrifennodd Hughes sawl opera libretto a llyfrau plant clasurol. Un o'r rhain yw, The Iron Man, a gafodd ei ysgrifennu i gysuro eu plant wedi hunanlofruddiaeth Sylvia Plath. Daeth yn sail ar gyfer opera roc Pete Townshend gyda'r un enw, a'r ffilm wedi'i animeiddio The Iron Giant. Gwnaethwyd Hughes yn Fardd Laureate yn 1984 wedi marwolaeth John Betjeman. Darganfyddwyd yn hwyrach, mai ail-ddewis oedd Hughes, y tu ôl i Philip Larkin, a drodd yr anrhydedd i lawr oherwydd salwch a writer's block. Cadwodd Hughes y fraint hyd ei farwolaeth yn 1998. Ymddangosodd ei waith ddiffiniol 1333 tudalen Collected Poems (Faber & Faber) yn 2003. Ysgrifennodd gerdd i'r merthyr Robert Ferrar, gŵr a fu'n Esgob Tyddewi: The Martyrdom of Bishop Farrar,[8] sy'n cynnwys y llinellau agoriadol:
LlyfryddiaethBarddoniaeth
Blodeugerddi a olygwyd gan Ted Hughes
Rhyddiaith
Llyfrau plant
Cyfansoddiadau â geiriau gan Ted Hughes
Cyfeiriadau
Dolenni allanol
|
Portal di Ensiklopedia Dunia