Te llysieuol
![]() Trwythiad llysieuol neu blanhigyn yw te llysieuol. Mae'n wahanol i'r te a yfir fel 'te brecwast' a wneir gyda dail Camellia sinensis. Fel diodydd eraill a wneir gyda'r llwyn te, paratoir te llysieuol drwy gymysgu dŵr poeth â ffrwythau, dail, gwreiddiau, neu ronynnau. Gellir yfed y ddiod yn oer neu'n boeth. CyfansoddiadGellir creu te llysieuol gyda blodau ffres neu wedi'u sychu, dail, hadau neu wreiddiau drwy arllwys dŵr berw ar ben rhannau'r planhigion a gadael iddynt drwytho am ychydig funudau. Gellir berwi hadau a gwreiddiau hefyd ar ffwrn. Mae'r te wedyn yn cael ei hidlo, melysu a ddymunir, a'i yfed. Mae llawer o gwmnïau yn cynhyrchu bagiau te llysieuol ar gyfer trwythau o'r fath. Paratoir te blas (flavored tea) drwy ychwanegu planhigion eraill at de gwirioneddol (te du, ŵlong, gwyrdd, melyn, neu wyn); er enghraifft, mae'r te poblogaidd Iarll Llwyd yn de du gyda bergamot (yr olew oren, nid y perlysieuyn o'r un enw), mae te jasmin yn de Tsieineaidd gyda blodau jasmin, ac mae te genmaicha yn de gwyrdd Japaneaidd gyda reis wedi'u tostio. Cyfeiriadau |
Portal di Ensiklopedia Dunia