Taalunie
![]() ![]() ![]() Mae'r Taalunie HanesSefydlwyd y Taalunie gan yr Iseldiroedd a Gwlad Belg ar 9 Medi 1980; fel rhan o ffederaleiddio Gwlad Belg, daeth llywodraeth Fflandrys yn gorff cyfrifol. Mae Suriname wedi bod yn aelod cyswllt ers 2004.[1] Mae cysylltiadau ag Indonesia yn ogystal â De Affrica a Namibia oherwydd bod yr iaith Afrikaans â chysylltiad agos. Yn 2004, llofnododd Swrinam "cytundeb cysylltiadol" gyda'r Taalunie.[2] O 27 Tachwedd 2013 mae'r cytundeb hefyd yn berthnasol i'r Iseldiroedd y Caribî.[3] Mae tair gwlad ymreolaethol Caribïaidd Teyrnas yr Iseldiroedd, Arwba, Curaçao, a Sint Maarten, wedi'u dynodi'n aelod-wladwriaethau ymgeisiol.[4] Yn ogystal, mae Indonesia a De Affrica yn cael eu hystyried yn "bartneriaid arbennig" o Undeb yr Iaith Iseldireg. TasgauSafoni'r iaithMae'r sefydliad yn ymdrechu i integreiddio'r gymuned Iseldireg ei hiaith ar lefel iaith a llenyddiaeth yn yr ystyr ehangaf:
Polisi iaith ar lefel EwropeaiddTasg bwysig i'r Taalunie yw penderfynu ar y sillafiad swyddogol. Mae hi hefyd yn cyhoeddi'r Woordenlijst Nederlandse Taal (Geiriadur yr iaith Iseldireg), a elwir yn aml yn Groene Boekje (Llyfr Gwyrdd). Mae'r sefydliad hefyd yn delio â chefnogi addysgu ieithoedd yn y tair gwlad a thramor. Ym maes llenyddiaeth, gellir crybwyll dyfarnu'r Prijs der Nederlandse Letteren (Gwobr Llenyddiaeth Iseldireg). Stwythur
Aelodau llawn
Aelodau Cyswllt
Partneriaid BreintiedigIseldireg fel iaith dramorMae'r Taalunie yn cefnogi dysgu Iseldireg mewn ysgolion cynradd ac uwchradd yn y rhanbarthau a'r gwledydd cyfagos. Mae'n ymwneud â Gwlad Belg (Brwsel a Wallonia; 350,000 o ddysgwyr), yr Almaen (Niedersachsen (Sacsoni Isaf) a Nordrhein-Westfalen, 40,000 o ddysgwyr) a Ffrainc (Nord-Pas-de-Calais, 8,000 o ddysgwyr). Mae'r Undeb hefyd yn cefnogi astudio iaith a diwylliant Iseldireg mewn prifysgolion ac ysgolion ledled y byd. Mae tua 14,000 o bobl yn astudio Iseldireg a llenyddiaeth Iseldireg mewn 140 o sefydliadau.[5] Gweler hefydCyfeiriadau
Dolenni allanol
|
Portal di Ensiklopedia Dunia