Tîm pêl-droed cenedlaethol Gibraltar
HanesDyddiau CynnarRoedd gêm gyntaf tîm pêl-droed (genedlaethol) Gibraltar ym mis Ebrill 1923, yn erbyn clwb Sevilla. Collodd Gibraltar y ddwy gêm gyfeillgar. Llwyddasant i gael gêm gyfartal yn erbyn Real Madrid in 1949.[4][5] Gemau'r YnysoeddCyn ymuno ag UEFA (corff llywodraethol pêl-droed Ewrop) bu Gibraltar yn cystadlu mewn amryw o gystadlaethau, yn fwyaf arbennig yn Gemau'r Ynysoedd (Island Games), er nad yw Gibraltar yn ynys, ond yn benrhyn. Cymerwyd rhan yng Ngemau'r Ynysoedd am y tro cyntaf yn 1993 Island Games. Collodd Gibraltar ei gemau i gyda, gan ddim ond sgorio un gôl a gorffen y twrnament yn y safle olaf un. FIFI "Wild Cup"Yn haf 2006 cymerodd Gibraltar ran yng nghystadleuaeth FIFI Wild Cup lle roedd hi'n 3ydd yn y detholion. Roedd y twrnament yn fersiwn amgen o Gwpan y Byd ar gyfer timau nad sydd wedi eu cydnabod yn swyddogol gan FIFA (corff byd-eant pêl-droed). Dim ond unwaith erioed gynhaliwyd y gystadleuaeth. Cafodd Gibraltar gêm gyfartal yn erbyn Gwerinaieth St Pauli (clwb radical, asgell chwith o ddinas Hamburg yn yr Almaen sy'n chwarae yn y Bundesliga. Aethant ymlaen i guro tîm Tibet 5–0 gan fynd ymlaen i'r gemau cyn-derfynol. Collon nhw'r gêm nesa, 2–0 Tîm pêl-droed gweriniaeth Twrcaidd Gogledd Cyprus. Curodd Gibraltar St Pauli unwaith eto i ennill ei lle fel trydyrdd yn y gystadleuaeth.[6] Dolenni
Cyfeiriadau
|
Portal di Ensiklopedia Dunia