System rhifolion Hindŵ-Arabaidd![]() System o rifolion degol positif yw system rhifo Arabaidd neu system rif Hindŵ-Arabaidd;[1] hi yw'r system fwyaf cyffredin drwy'r byd, ar gyfer cynrychioli rhifau drwy symbolau e.e "7".[2] Defnyddid y gair Hindŵ gan yr Arabiaid (neu'r Persiaid) yr adeg honno am bobl o India. Cyrhaeddodd y system hon drwch poblogaeth gwledydd Prydain yn y 15g, ac ymhlith y rhai a geisiodd ei hamlygu roedd y Cymro o Sir Benfro Robert Recorde, yn ei lyfr The ground of artes, 1543. Cyn hynny, defnyddid y dull Rhufeinig. Fe'i dyfeisiwyd gan fathemategwyr Indiaidd rhwng 1g a'r 4g a mabwysiadwyd y system gan fathemategwyr Arabaidd erbyn y 9g. Ystyrir llyfrau Muḥammad ibn Mūsā al-Khwārizmī yn aruthrol bwysig (Cyfrifo gyda Rhifau Hindŵ, c.825) ac Al-Kindi (Ar y Defnydd o Rifau Hindŵaidd, c.830). Ymledodd y system, yn ddiweddarach, i Ewrop ganoloesol.[3] Mae'r system wedi'i seilio ar ddeg glyff (neu symbol) gwahanol - naw yn wreiddiol. Mae'r glyffs a ddefnyddir i gynrychioli'r system, mewn egwyddor, yn annibynnol ar y system ei hun. Mae'r glyffiau a ddefnyddir heddiw yn ddisgynyddion rhifolion Brahmi ac maent wedi rhannu'n amrywiol amrywiadau teipograffyddol ers yr Oesoedd Canol; heddiw, ceir 3 prif grwp. Caiff ei ystyried yn system o nodiant sy'n dibynnu ar leoliad y glyff. Lleoliad y nodiantDrwy ddefnyddio'r pwynt degol, llinell lorweddol (i nodi negydd) a marc i nodi fod y rhif yn parhau 'ad infinitum (yr 'arlinell', neu'r vinculum), gellir mynegi unrhyw rif gyda dim ond 13 symbol. Felly'r 13 yw: y deg digid, y pwynt degol, yr arlinell a dash i nodi rhi negatif. Cymharu glyffiau
Cyfeiriadau
|
Portal di Ensiklopedia Dunia