Syr Hugh Owen Owen, 2il Farwnig
Roedd Syr Hugh Owen Owen, ail farwnig (ganwyd yn Hugh Owen Lord) (25 Rhagfyr 1803 – 5 Medi 1891) yn dirfeddiannwr o Gymru a wasanaethodd fel Aelod Seneddol Penfro ar ddau achlysur rhwng 1826 a 1838 a rhwng 1861 a 1868 [1] Bywyd personolRoedd Owen yn fab i Syr John Owen, Barwnig 1af, a Charlotte merch y Parch John Lewes Philips. Pan fu farw cefnder Syr John, Syr Hugh Owen, 6ed Barwnig Orielton, heb etifedd aeth ei ystâd i John Lord a newidiodd cyfenw ei deulu i Owen o dan delerau'r ewyllys. Cafodd ei addysgu yng Ngholeg Eton a Choleg Eglwys Crist, Rhydychen Ym 1825 priododd Angelina Cecilia merch Syr Charles Morgan, Tŷ Tredegar, Casnewydd; bu iddynt pum mab a phedair merch. Wedi marwolaeth ei wraig gyntaf ym 1844 priododd Henrietta Fraser merch yr Anrhydeddus Edward Rodney ym 1845 bu iddynt un mab a thair merch. Gyrfa wleidyddolEtholwyd Owen i'r senedd am y tro cyntaf fel aelod Torïaidd etholaeth Penfro ym 1828 gan dal y sedd hyd 1838, roedd ei dad yn aelod dros y Sir trwy gydol yr un cyfnod. Prin oedd ei gyfraniadau i'r senedd yn y cyfnod hwn a phan oedd yn cyfrannu tueddai dilyn llinell ei dad. Yn etholiad cyffredinol 1838 collodd Syr James Graham, Prif Arglwydd y Llynges ei sedd yn Swydd Cumberland a mynnodd Syr John Owen bod Hugh yn ymneilltuo o'i sedd er mwyn caniatáu i Graham dychwelyd i'r senedd. Yn etholiad cyffredinol 1841 penderfynodd Syr James sefyll yn etholaeth Dorchester; penderfynodd Syr Hugh sefyll eto i geisio ennill ei hen le yn ôl. Roedd Syr John yn wynebu gwrthwynebiad cryf yn etholaeth Sir Benfro pan benderfynodd John Cambell, Is Iarll Emlyn a mab iarll Cawdor ei fod o am sefyll dros a Sir, heb obaith o ariannu ymgyrch cyfatebol i un yr Is-Iarll penderfynodd Syr John, hefyd, sefyll dros y fwrdeistref; y tad fu'n fuddugol. Yn etholiad 1857 penderfynodd Syr John i sefyll fel ymgeisydd Rhyddfrydol yn hytrach na Cheidwadol a bu'n cynrychioli Penfro fel Rhyddfrydwr hyd ei farwolaeth ym 1861. Ar farwolaeth Syr John safodd Syr Hugh fel ymgeisydd Rhyddfrydol gan ennill y sedd mewn ornest yn erbyn ymgeisydd Ceidwadol, Thomas Charlton-Meyrick gan gadw'r sydd hyd iddo gael ei drechu gan Charlton-Meyrick ym 1868.[2] Rhwng 1872 a 1889 bu'n gweithio fel Aide-de-camp i'r Brenhines Victoria. MarwolaethBu farw yn Barnes, Llundain. Etifeddwyd y farwnigaeth gan ei fab Hugh Charles Owen.[3] Cyfeiriadau
|
Portal di Ensiklopedia Dunia