Stranraer F.C.
Tim pêl-droed sy'n chwarae yng nghynghreiriau Yr Alban yw Stranraer Football Club. Maent wedi sefydlu yn Stranraer, sydd yn Ne-Orllewin Yr Alban. Maent yn chwarae eu gemau cartref yn stadiwm Stair Park. HanesSefydlwyd Stranraer F.C. yn 1870, a nhw ydy'r trydydd tim hynaf yng nghynghreiriau yr Alban. Ymunodd Stranraer â chynghreiriau'r Alban yn 1949. Gêm enwocaf Stranraer oedd yn erbyn Glasgow Rangers yn 1948 yng Nghwpan Yr Alban. Enillodd Rangers 1-0 mewn gem agos iawn o flaen stadiwm orlawn. Heb fawr o dlysau i'w henw yn ystod bron i 140 o flynyddoedd fel tîm, mae Stranraer wedi treulio'r rhan fwyaf o'u hamser yn y cynghreiriau isaf. Maent wedi cyrraedd Y Gynghrair Gyntaf ar dair adeg wahanol, ond byth wedi medru aros yn yr adran yn fwy nag un tymor. Yn 2009 roedd gan y clwb ddyledion o dros £250,000, sydd yn fygythiad real i'r clwb. Anrhydeddau
Dolenni allanol
|
Portal di Ensiklopedia Dunia