Stephen Richard Glynne, 9fed Barwnig
Tirfeddiannwr Gymreig a gwleidydd Ceidwadol oedd Syr Stephen Richard Glynne, 9fed Barwnig (22 Medi 1807 – 17 Mehefin 1874). Fe'i cofir yn bennaf fel ymchwilydd ym maes yr hynafiaethau gyda diddordeb arbennig mewn pensaernïaeth eglwysig Prydain. Roedd yn frawd-yng-nghyfraith i'r Brif Weinidog Rhyddfrydol William Ewart Gladstone.[1] CefndirBu farw Syr Stephen yr 8fed farwnig ym 1815 yn 35 mlwydd oed. Gan hynny etifeddodd Stephen ei fab y farwniaeth ac ystadau'r teulu (a oedd yn cynnwys Castell Penarlâg) pan nad oedd ond 7 mlwydd oed.[2] Priododd Catherine, chwaer Stephen Glynne, y gwleidydd William Ewart Gladstone. Daeth tad Gladstone, Syr John Gladstone, i'r adwy, pan achubodd Glynne rhag mynd yn fethdalwr ar ôl methiant gwaith haearn yr oedd yn rhan-berchennog arnynt[3]. Yr unig fodd iddo gadw Penarlâg oedd trwy werthu rhan o'r ystâd a chytuno i rannu ei gartref Castell Newydd Penarlâg gyda William a Catherine. Bu Glynne farw'n ddibriod, a daeth y farwnigaeth i'w therfyn ar ei farwolaeth. Cafodd ystâd a chastell Penarlâg eu hetifeddu gan ei nai William Henry Gladstone, mab hynaf William a Catherine. GyrfaCafodd Glynne ei addysgu yng Ngholeg Eton a Choleg Christ Church, Rhydychen gan ennill gradd trydydd dosbarth yn y Clasuron. Bu'n gwasanaethu fel Aelod Seneddol Ceidwadol Bwrdistrefi Fflint o 1832 i 1837 a Sir y Fflint o 1837 i 1841 ac eto o 1842 i 1847 er na siaradodd erioed mewn dadl yn Nhŷ'r Cyffredin. Bu hefyd yn Uchel Siryf Sir y Fflint ym 1831 ac yn Arglwydd Raglaw Sir y Fflint o 1845 i 1871. Yn ystod ymgyrch etholiadol 1841, daeth Glynne ag achos enllib yn erbyn y Chester Chronicle, wedi i'r papur gyhoeddi honiad ei fod yn gyfunrywiol. Enillodd yr achos a bu'n rhaid i'r papur ymddiheuro. CrefyddO ran ei ddaliadau crefyddol yr oedd Glynne yn aelod pybyr o Eglwys Lloegr ac yn elyniaethus i achosion anghydffurfiol. Roedd yn gwrthod caniatáu i anghydffurfwyr gynnal cyfarfodydd o addoliad yn y pentrefi a oedd yn eiddo i'w ystâd.[4] Er mwyn lleihau apêl y capeli roedd Glynne yn credu ei fod yn bwysig i'r Eglwys gynnig gwasanaethau Cymraeg a bu'n ddylanwadol wrth sicrhau bod y Cymro Cymraeg, John Hughes, yn cael ei benodi'n Esgob Llanelwy ym 1870. HynafiaethauYn codi o'i Anglicanaeth pybyr roedd gan Glynne diddordeb mawr mewn pensaernïaeth eglwysig. Roedd yn aelod o bwyllgor, yn ddiweddarach yn ysgrifennydd mygedol, ac yn y pendraw yn is-lywydd yr Ecclesiological Society - cymdeithas a oedd yn hybu astudiaethau o bensaernïaeth Gothig ac o hynafiaethau Eglwysig. Ym 1847 bu'n un o olygyddion llyfr a gyhoeddwyd gan y gymdeithas Hand-Book of English Ecclesiology. Yn ystod ei fywyd bu Glynne yn ymweld â dros bum mil o eglwysi gan wneud nodiadau manwl am eu nodweddion pensaernïol[5]. Mae ei nodiadau yn dyddio o 1824 tan ychydig ddyddiau cyn ei farwolaeth ac maent yn cwmpasu eglwysi yng Nghymru, Lloegr ac Ynysoedd y Sianel ac ychydig yn yr Alban ac Iwerddon. Mae ei nodiadau yn parhau i gael eu gwerthfawrogi'n fawr gan haneswyr pensaernïol, gan eu bod yn aml yn rhoi cofnod byr a gwybodus o'r adeiladau fel yr oeddent cyn adferiadau Fictoraidd. Mae nodiadau eglwysig Glynne wedi eu cadw mewn 106 o gyfrolau, sydd yn cael eu cadw yn Llyfrgell Gladstone (Llyfrgell Deiniol Sant gynt), Penarlâg.[6] Er na chyhoeddodd Glynne ei nodiadau yn ystod ei fywyd mae sawl gyfrol bellach wedi'u cyhoeddi gan gymdeithasau archeolegol a chofnodion lleol ers ei farwolaeth. Bu Glynne hefyd yn gwasanaethu fel Llywydd cyntaf (1847-9) Cymdeithas Hynafiaethau Cymru; ac fel cadeirydd (1852-1874) Adran Bensaernïol y Sefydliad Archeolegol. MarwolaethBu farw Glynne o drawiad ar y galon y tu allan i orsaf reilffordd Bishopsgate ar 17 Mehefin, 1874 ar ôl ymweld ag eglwysi yn Essex a Suffolk[7]. Fe'i claddwyd yn Eglwys Penarlâg.[8] Cyfeiriadau
|
Portal di Ensiklopedia Dunia