Stan Laurel
Actor digrif, dramodydd a chyfarwyddwr ffilm Seisnig oedd Stan Laurel (ganwyd Arthur Stanley Jefferson; 16 Mehefin 1890 – 23 Chwefror 1965) ac un hanner o Laurel a Hardy, y ddeuawd a gychwynnodd yn oes ffilmiau mud a barodd 25 mlynedd, o 1927 i 1951. Ymddangosodd gyda'i bartner comedi Oliver Hardy mewn 107 ffilm ffer, ffilm nodwedd a rhannau cameo. Fe'i ganwyd yn nhref Ulverston, Swydd Gaerhirfryn (bellach yn Cumbria), Lloegr, i deulu theatraidd, a magwyd yn Bishop Auckland, Swydd Durham, wedyn Tynemouth, Northumberland, a Glasgow, yr Alban. Yn Glasgow y cychwynodd ar ei yrfa ar y llwyfan, gan ymddangos mewn pantomeimiau a sgetshis yn y theatr gerdd. Ym 1910 ymunodd â chwmni actorion Fred Karno, ac am gyfnod roedd yn dirprwyo dros Charlie Chaplin. Aeth y cwmni ar daith drwy'r Unol Daleithiau cyn y Rhyfel Byd Cyntaf, ac arhosodd Laurel a Chaplin yno. Parhaodd Laurel i ymddangos ar y llwyfan am ddegawd o leiaf, ond ym 1917 roedd ganddo rôl mewn ffilm fer, Nuts in May. Wedi hynny trodd fwyfwy at weithio mewn ffilmiau, a ffurfiodd ei bartneriaeth hirsefydlog gyda Hardy ym 1927. Ymddeolodd Laurel ar ôl marwolaeth ei bartner ym 1957. Bu farw yn Santa Monica, Califfornia, ym 1965. Roedd ganddo bedair gwraig, a phriododd un ohonyn nhw ddwywaith. Llenyddiaeth
Cyfeiriadau |
Portal di Ensiklopedia Dunia