Siarl Martel
![]() Siarl Martel (23 Awst 686 – 22 Hydref 741) oedd Maer y Llys yn nheyrnas Ffrancaidd Awstrasia o'r flwyddyn 715 hyd ei farwolaeth. Mae'n fwyaf enwog am ei fuddugoliaeth ym Mrwydr Tours yn erbyn byddin Fwslemaidd. BywgraffiadRoedd Siarl yn fab gordderch i Pepin de Heristal a'i ordderch Alpaïde de Bruyères. Ar farwolaeth ei dad yn (714), cymerodd Siarl ei le fel Maer y Llys. Deilydd y swydd yma oedd yn rheoli'r deyrnas mewn gwirionedd; swyddogaeth seremonïol yn unig oedd gan y brenin. Nid oedd Plectrude, gwraig Pepin, yn barod i dderbyn hyn, a llwyddodd i garcharu Siarl, gan reoli ei hun dros ei mab chwech oed, Thiaud. Cododd nifer o daleithiau mewn gwrthryfel mewn ymateb i'r syniad o gael eu rheoli gan wraig, a cymerodd teyrnas Neustria fantais i orchfygu Austrasia mewn brwydr. Llwyddodd Siarl i ddianc o'r carchar. Gorchfygodd y Neustraid mewn dwy frwydr a gorfododd Plectrude a'i mab i ildio. Erbyn 720 yr oedd wedi uno tiriogaethau'r Ffranciaid yn un deyrnas. Yn 719 gorchfygodd Radbod, brenin y Ffrisiaid a gwneud Ffrisia yn rhan o Ymerodraeth y Ffranciaid. Yn 732 bu raid i Martel wynebu byddin Fwslemaidd dan reolwr Al-Andalus, Abdul Rahman Al Ghafiqi. Diweddodd Brwydr Tours mewn buddugoliaeth fawr i'r Cristionogion, gyda Abdul Rahman ei hun ymhlith y lladdedigion. Mae nifer o haneswyr yn ystyried i'r frwydr yma fod yn un o'r rhai mwyaf tyngedfennol yn hanes Ewrop, ac y gallai Ewrop oll fod wedi dod yn rhan o'r byd Islamaidd onibai am fuddugoliaeth Martel. Rhwng 735 a 737 enillodd Martel nifer o fuddugoliaethau eraill dros yr Arabiaid yn ne Ffrainc. OlyniaethBu Siarl Martel farw yn Quierzy ar 22 Hydref 741. Rhannwyd ei diroedd rhwng ei ddau fab:
Cyfeiriadau |
Portal di Ensiklopedia Dunia