Siôn Jobbins
Awdur, gwleidydd ac academydd ydy Siôn Jobbins (ganwyd, Kitwe, Sambia, 16 Chwefror 1968). Mae'n gydolygydd y cylchgrawn Cambrian Magazine Archifwyd 2014-12-19 yn y Peiriant Wayback sy'n gylchgrawn cenedlaethol, annibynnol Saesneg. Ar hyn o bryd mae'n Swyddog Datblygu'r Gyfraith, Gwleidyddiaeth, Gwyddorau Cymdeithasol, ac Athroniaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth.[1] Ei weledigaeth ef oedd Parêd Gŵyl Dewi Aberystwyth a sefydlwyd ganddo yn 2013; sefydlwyd gorymdeithiau tebyg mewn sawl tref yn dilyn hynny, gan gynnwys Pwllheli, Caerfyrddin a Chaergybi. AwdurYmhlith y llyfrau mae wedi'u hysgrifennu mae The Welsh National Anthem a'r gyfres The Phenomenon of Welshness: 'How Many Aircraft Carriers Would an Independent Wales Need?' ac 'Is Wales Too Poor to Be Independent?'[2][3] Yn ei lyfrau gwleidyddol mae Siôn Jobbins weithiau'n troedio'r ffin denau rhwng pryfocio a chythruddo. Yn The Phenomenon of Welshness mae'n sôn am Frad y Llyfrau Gleision, dyfeisio Dydd Santes Dwynwen, radio answyddogol Cymraeg y 1960au, yr angen am brotestiadau iaith, Cymreictod cyfnewidiol Caerdydd ac Abertawe, a'r posibilrwydd o gael teulu brenhinol Cymreig newydd. Mae'n olygydd toreithiog ar yr Wicipedia Cymraeg, a'i syniad ef, yn Ebrill 2018, oedd #wici365, lle mae awduron yn ceisio creu un erthygl y dydd. GweithreduMae Jobbins wedi bod yn weithgar yng ngwleidyddiaeth a diwylliant Cymru a'r Gymraeg ers ei arddegau hwyr. Plaid CymruRoedd yn Gadeirydd Mudiad Ieuenctid Plaid Cymru am gyfnod yn yr 1990au cynnar. Bu iddo fod yn gynghorydd Gyngor Tref Aberystwyth yn 1996 gan ddod yn Faer Aberystwyth am 1999-2000. Safodd fel ymgeisydd Plaid Cymru yn Etholiad Cyffredinnol y Deyrnas Unedig, 2001 ar gyfer seddd Gogledd Caerdydd. Daeth yn bedwerydd gan gadw ei ernes. Safodd eto fel ymgeisydd Plaid Cymru yn Etholiad Cynulliad Cymru 2003 ar gyfer sedd Preseli Penfro lle ddaeth yn drydydd. Ymgyrch dotCYMYn 2007 sefydlodd ac arweiniodd ymgyrch i ennill Parth Lefel Uchaf ar y we, sef, cais dotCYM a sefydlwyd, maes o law yn 2013, fel .cymru. Yn cydweithio ag e oedd Maredudd ap Gwyndaf. YesCymruBu'n un o sylfaenwyr YesCymru yr ymgyrch dorfol dros ennill annibyniaeth i Gymru. Lansiwyd y mudiad yn swyddogol ym mis Chwefror 2016. Ym mis Awst 2018, adeg Eisteddfod Genedlaethol Cymru Caerdydd 2018 cychwynodd Radio YesCymru ddaeth yn bodlediad am y mudiad annibyniaeth. Ym mis Tachwedd 2018 daeth yn Gadeirydd ar y mudiad gan arwain y mudiad ar adeg o dwf anghygoel a sawl gorymdaith llwyddiannus dorfol dros annibyniaeth yng Nghaerdydd (Mai 2019), Caernarfon (Gorffennaf 2019), a Merthyr Tuful (Medi 2019) ac yna yn ystod cyfnod [[Y Gofid Mawr (COVID-19) yng Nghymru|Covid-19) yn 2020 a 2021. Bu iddo sefyll lawr fel Cadeirydd ym mis Gorffennaf 2021.[4] AmrywiolBu'n aelod o'r band Edrych am Jiwlia pan oedd yn ei ieuenctid. Mae ganddo dri o blant, Elliw, Gwenno, ac Owain. Oriel
Cyfeiriadau
Dolenni allanol |
Portal di Ensiklopedia Dunia