Seren Dafydd
![]() ![]() ![]() Mae Seren Dafydd,[1] (Hebraeg: מָגֵן דָּוִד, cyf. Magen David, llyth. 'Tarian Dafydd') a elwir hefyd yn Tarian Dafydd neu Sêl Solomon, yn un o symbolau Iddewiaeth. Er mai arwyddlun crefyddol addoliad Iddewig yn draddodiadol oedd y menora, roedd y canhwyllbren ddefodol saith-cangen, yr arwyddlun - yn cynnwys dau driongl hafalochrog sy'n gorgyffwrdd, yn ffurfio seren chwe phwynt - yn cael ei ddefnyddio'n aml i wahaniaethu rhwng cymunedau ac ardaloedd a neilltuwyd ar gyfer Iddewon (ghetto neu cwarter) o'r Oesoedd Canol a hefyd yn yr Ail Ryfel Byd gyda'r Iddewon. Mae hefyd yn symbol, ymhlith eraill, o Theosoffi neu Martinistiaeth . TarddiadRoedd y farn Iddewig am Dduw, na chaniataodd unrhyw ddelweddau ohono, yn wrthwynebus i dderbyn unrhyw symbolau ac nid yw'r Beibl na'r Talmud yn cydnabod eu bodolaeth. Mae'n werth nodi, ar ben hynny, na chrybwyllir tarian Dafydd mewn llenyddiaeth rabinaidd.[2] Mae ei darddiad yn gysylltiedig â'r Brenin Dafydd ond nid yw ei ystyr yn glir. I rai trawsnewid arwydd cynharach o Zoroaster ydyw, i eraill mae'n fath o siart astral am enedigaeth y brenin, ac mae eraill yn honni mai'r llun a ffurfiwyd gan lythrennau ei enw ydyw. Mae'r hanesydd Jorge Mª Rivero-Meneses yn ei gyhoeddi fel undeb o ddau driongl, sy'n symbol o ffrwythlondeb benywaidd. Fe'u nodwyd fel dwyfoldeb a chyda dechrau bywyd (vertex i fyny) ac fel rhyw y fenyw a'i swyddogaeth gynhyrchiol (vertex i lawr). Ni chrybwyllir tarian Dafydd mewn llenyddiaeth rabinaidd. Nid oes unrhyw brawf archeolegol o'i ddefnydd yn y Wlad Sanctaidd yn yr Henfyd, hyd yn oed ar ôl y Brenin Dafydd. Darganfuwyd Seren Dafydd yn ddiweddar mewn beddrod Iddewig yn Taranto, de'r Eidal, y gellid ei ddyddio i'r 3g. Dywed y ffynhonnell lenyddol gyntaf sy'n sôn amdani, Eshkol ha-Kofer o'r Karaite Jwda Hadasí (o ganol y 12g), yn y bennod 242: "Mae saith enw angylion yn rhagflaenu'r mezuzah: Michael, Gabriel, etc. Mae'r tetragrammaton yn eich amddiffyn! Ac yn yr un modd yr arwydd a elwir 'Tarian Dafydd' yn cael ei osod wrth ymyl enw pob angel." Felly mae'n arwydd am swynoglau y tro hwn. [3] Mewn papyrau hudolus o hynafiaeth, mae pentagramau, ynghyd â ser ac arwyddion eraill, i'w cael yn aml mewn swynoglau yn dwyn yr enwau Iddewig Duw, ac yn cael eu defnyddio fel amddiffyniad rhag twymyn a chlefydau eraill. Y peth mwyaf chwilfrydig yw mai dim ond y pentagram sy'n ymddangos ac nid yr hecsagram. Ym mhapyri hudolus mawr Paris a Llundain mae ugain arwydd cyfochrog, a chylch gyda deuddeg symbol, ond dim pentagram na hecsagram. Mae'n debyg nad oedd syncretiaeth diwylliant Groeg, Iddewiaeth, a dylanwadau Coptig yn tarddu'r symbol. Mae'n bosibl mai'r Kabbalah oedd tarddiad y symbol, a oedd yn cynrychioli trefniant y deg Sefirot. Addurnwyd copi llawysgrif o'r Tanakh (Y Beibl Hebraeg), dyddiedig 1307 ac yn perthyn i Reb Yosef bar Yehuda ben Marvas o Toledo, Sbaen, â tharian Dafydd. Yn y synagogau, efallai ei fod wedi cymryd lle'r mezuzah, a gallai'r enw tarian Dafydd ddod o'r pwerau amddiffyn yr oedd i fod i'w cael. Gallai'r hecsagram fod wedi'i osod yn wreiddiol hefyd ym mhensaernïaeth addurniadol synagogau, megis yn eglwys gadeiriol Brandenburg a Stendal, ac yn y Marktkirche yn Hanover. Darganfuwyd pentagram gyda'r siâp hwn yn synagog hynafol Tel Hum. Un o'r chwedlau sy'n cylchredeg ymhlith yr Iddewon am y Magen David yw'r canlynol: Gan ddianc o'r Brenin Dafydd rhag ei wrthwynebwyr y Ffilistiaid, cuddiodd y tu mewn i ogof. Yn syth ar ôl iddo fynd i mewn, fe wnaeth pry cop wau ei we gan roi siâp "seren Dafydd" i'w edau. Achosodd y gwe cob hwn a oedd wedi'i leoli wrth fynedfa'r ogof i'w erlidwyr fynd heibio, gan feddwl pe bai'r we cob yn gyfan na fyddai neb wedi pasio drwodd yno am amser hir.. Ar ôl y digwyddiad "gwyrthiol" mabwysiadodd y brenin y symbol hwn fel yr arwyddlun eu tarian a'r bobl Iddewig yn ei defnyddio fel amddiffyniad. Cyfnod ModernY hecsagram a ffurfiwyd gan y cyfuniad o ddau driongl hafalochrog; ei ddefnyddio fel symbol o Iddewiaeth. Fe'i gosodir ar synagogau, llestri cysegredig, a'r cyffelyb, a mabwysiadwyd hi fel dyfais gan Gymdeithas Cyhoeddiadau Iddewig America yn 1873 (gw. y darlun, Iddew. Ecyc. i. 520), Cyngres Seionaidd Basel (ib. ii. 570)—felly gan "Die Welt" (Vienna), organ swyddogol Seioniaeth—a chan gyrff ereill.[2] Mabwysiadwyd Seren Dafydd fel symbol nodedig i'r Iddewon ac mae eu crefydd yn dyddio'n ôl i ddinas Prâg yr 17g.[4] Yn y 19g, dechreuodd y symbol gael ei ddefnyddio'n eang ymhlith cymunedau Iddewig Dwyrain Ewrop, gan ddod yn y pen draw i gael ei ddefnyddio i gynrychioli hunaniaeth Iddewig neu gredoau crefyddol.[5] Daeth yn gynrychioliadol o Seioniaeth ar ôl iddi gael ei dewis yn symbol canolog ar gyfer baner genedlaethol Iddewig yn y Gyngres Seionaidd Gyntaf ym 1897.[6] Erbyn diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf, roedd wedi dod yn symbol a oedd yn cael ei dderbyn yn rhyngwladol i'r bobl Iddewig, yn cael ei ddefnyddio ar gerrig beddau milwyr Iddewig a oedd wedi cwympo.[7] Gwrth-SemitiaethRoedd Natsïaeth yn ei ddefnyddio ar gefndir melyn i ddynodi’r Iddewon fel nod difrïol, cyn ac yn ystod yr holocost. Bu'n rhaid i'r Iddewon wisgo'r seren ar eu dillad i arddangos eu hunaniaeth.[8] Caiff Seren Dafydd ei defnyddio hyd yma fel symbol syml gan bobl hiliol Gwrth-Semitaidd i ddangos (neu cam-ddangos) perchnogaeth Iddewon o eiddo neu leoliad.[9] Gyda sefydlu Gwladwriaeth Israel, daeth Seren Dafydd ar y faner las a gwyn yn symbol o Wladwriaeth Israel, gan ei bod yn cael ei hystyried yn symbol sylfaenol y bobl Iddewig a dyna pam y mae'n bresennol i faner Gwladwriaeth Israel. Cam-ddefnydd yn ystod Covid-19Yn ystod pla Covid-19 beirniadwyd ymgyrchwyr gwrth-brechlyn Covid-19 am ddefnyddio Seren Dafydd fel arwydd o "gorthrwm" a "gor-reolaeth" y wladwriaeth dros bobl i'w "corlannu" i gymryd y brechlyn yn erbyn eu hewyllys. Beirniadwyd hyn o sawl tu gan gynnwys yn arbennig yn yr Almaen a gan Iddewon. Gwelwyd cam-ddefnydd o Seren Dafydd felen 'Natsiaidd' gan grwpiau gwrth-frechlyn ar draws y byd ond cafwyd ymateb chwyrn i'r defnydd yn yr Almaen, lle ail-luniodd protestrwyr y seren felen gyda'r gair ungeimpft (ni frechlwyd).[10] Sefydliad Magen David Adom (Tarian Goch Dafydd)![]() Yn Israel ceir gwasanaeth brys a iechyd Magen David Adom[11] - dyma fersiwn neu gangen annibynnol ond cysylltiedig o'r Mudiad Rhyngwladol y Groes Goch a'r Cilgant Coch. Fel y Croes Goch, mae'r symbol ei hun, y Seren, mewn coch ac ar gefndir gwyn. Ceir cerbydau megis Ambiwlans eu paentio gyda'r symbol yma. Dolenni allanol
Cyfeiriadau
|
Portal di Ensiklopedia Dunia