Seintiau Cristnogol

Ceir nifer fawr o seintiau Cristnogol, er bod ystyr y term "sant" yng nghyd-destun Cristnogaeth yn amrywio. Daw'r gair 'sant' ei hun o'r gair Lladin sanctus ("sanctaidd").

Dewi Sant (Capel Coleg yr Iesu, Rhydychen)

Yn yr Eglwys Fore defnyddid y gair 'sant' (sanctus) i bob credadyn yn gyffredinol, ac mae rhai enwadau Cristnogol diweddar yn dal i ddefnyddio'r enw felly, e.e. y Mormoniaid. Gelwir cyfnod bore yr eglwys, yn arbennig yn y gwledydd Celtaidd, yn Oes y Seintiau (gweler Oes y Seintiau yng Nghymru, er enghraifft). Yn yr Eglwys Gatholig ceir proses o ganoneiddio cyn i berson gael ei ychwanegu at y galendr o seintiau swyddogol, cydnabyddiedig. Ceir nifer o gwltau defosiynol sy'n gysylltiedig รข'r seintiau. Mae'r eglwysi Protestannaidd yn gyffredinol yn gwrthod addoli seintiau.

Y prif seintiau Cristnogol

Mae'r prif seintiau yn cynnwys yr Apostolion o'r Testament Newydd, disgyblion Iesu o Nasareth, rhai o Dadau'r Eglwys fel Sant Awstin o Hippo, ac arweinwyr crefyddol mawr yr Oesoedd Canol, fel Ffransis o Assisi.

Nawddseintiau cenedlaethol

Datblygiad arall oedd cydnabod nawddseintiau cenedlaethol, yn cynnwys Dewi Sant, nawddsant Cymru.

Gweler hefyd

Eginyn erthygl sydd uchod am Gristnogaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.

 

Prefix: a b c d e f g h i j k l m n o p q r s t u v w x y z 0 1 2 3 4 5 6 7 8 9

Portal di Ensiklopedia Dunia