Seidr y Mynydd

'Seidr y Mynydd'

Mae Seidr y Mynydd yn enw ar gwmni macsi seidr annibynnol o Mynydd-y-garreg ger Cydweli yn Sir Gaerfyrddin. Sefydlydd y cwmni yw Siôn Lewis.

Arddull

Mae Seidr y Mynydd yn cynhrychu seidr gan ddefnyddio afalau yn unig a defnyddio y dull "cîfio" (Saesneg: keeving). Dyma'r dull sy'n boblogaidd wrth gynhyrchu seidr yn Llydaw a Normandi.

Ceir gwahanol flasau o Seidr y Mynydd gan gynnwys seidr sych a melys.

Gwobrau

Seidr y Mynydd pencampwyr Cymdeithas Perai a Seidr Cymru, 2018

Mae Seidr y Mynydd wedi ennill sawl gwobr am safon ei seidr gan gynnwys Pencampwr Cymdeithas Perai a Seidr Cymru yn 2015, 2017 a 2018.

Hanes

Sefydlwyd y cwmni yn 2015 yn Mynyddygarreg yng nghartre y teulu, ac yna yn 2019 symudwyd lawr y ffordd i Gydweli, ble aaluogwyd i barhau am rhai blynyddoedd trwy garedigrwydd a chymorth Tegwen Burns.

Cyfeiriadau

Dolenni

Eginyn erthygl sydd uchod am ddiod alcoholaidd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.

 

Prefix: a b c d e f g h i j k l m n o p q r s t u v w x y z 0 1 2 3 4 5 6 7 8 9

Portal di Ensiklopedia Dunia