Santes Canna
Merch i Tewdwr ap Emyr Llydaw oedd Canna.[1] Cymysgu gyda Santesau eraillMae yn anodd bod yn sicr fod unrhyw llan wedi'i chysegru â hi, yn benodol, gan ei bod hi'n cael ei chymysgu gydag o leiaf tair santes arall: Ceinwen, Ceindrych a Chenhedlon - tair o ferched Brychan. Dianc o LydawDihangodd ei theulu o Lydaw ar ôl i Hoel gipio grym yno tua 546. Priododd â Sadwrn oedd yn berthynas iddi; (roedd yntau a'i deulu hefyd wedi dianc o Lydaw) a chawsant fab, Crallo. Buont yn byw am gyfnod yn ne Cymru ble sefydlasant Llansadwrn ger Llanymddyfri cyn ymgartrefu ym Môn a sefydlu Llansadwrn arall. Ar ôl marwolaeth Sadwrn prioddodd Canna eto, gydag Alltu Redegog a chawsant ddau o blant Eilian a Thegfan.[1] Mae Canna yn cael ei chysylltu gyda nifer o eglwysi ond gan fod y mwyafrif yn ne Cymru mae'n debyg y dylent cael ei chysylltu gyda rhai o ferched Brychan. Yn eglwys Biwmares mae cerfluniau o Canna a Sadwrn a wnaethpwyd yn y 15g.[2] Mae cerflun Canna yn dangos llyfr yn ei law, arwydd ei bod hi wedi addysu eraill, a ffon yn y llaw arall, sy'n ail-ddechrau tyfu brigau a dail.[3] Bu ei mab Eilian hefyd yn sant; cysylltir ef gyda Llaneilian ar Ynys Môn a Llaneilian-yn-Rhos ger Bae Colwyn. Nid oes sôn amdani yn y traethodyn achyddol Bonedd y Saint (12g) nac ychwaith yn y Calendrau Cymreig .[4] Dethlir ei gŵyl ar 25 Hydref.[5][6] Cyfeiriadau
|
Portal di Ensiklopedia Dunia