Saltburn-by-the-Sea
Tref glan môr yn sir seremonïol Gogledd Swydd Efrog, Gogledd-ddwyrain Lloegr, ydy Saltburn-by-the-Sea.[1] Fe'i lleolir ym mhlwyf sifil Saltburn, Marske and New Marske yn awdurdod unedol Bwrdeistref Redcar a Cleveland. Saif ar yr arfordir tua 4 milltir i'r de-ddwyrain o dref Redcar. Yng Nghyfrifiad 2011 roedd gan ardal adeiledig Saltburn-by-the-Sea boblogaeth o 5,958.[2] HanesCyn y 1860au nid oedd Saltburn fawr mwy na phentrefan. Fodd bynnag, ym 1858 cafodd Henry Pease, datblygwr rheilffordd a gwleidydd, y syniad o greu tref gyrchfan ar y clogwyni gyda gerddi cyhoeddus yn y dyffryn islaw. Trefnwyd strydoedd ar gynllun grid gyda chymaint o dai â phosib â golygfeydd o'r môr. Un o'r gwestai rheilffordd cyntaf yn y byd oedd y Zetland Hotel, clamp o adeilad a agorwyd ym 1863. Agorwyd Pier Saltburn ym 1867. Lifft Clogwyn Saltburn, a agorwyd ym 1884, yw'r rheilffordd ffwniciwlar hynaf yn y Deyrnas Unedig sy'n cael ei gyrru gan ddŵr.
Cyfeiriadau
Dinasoedd a threfi
Dinasoedd |
Portal di Ensiklopedia Dunia