Saith Seren, Wrecsam
Canolfan Gymraeg a Chymreig amlbwrpas a menter gydweithredol yn Wrecsam ydy Saith Seren.[1][2] Mae'r ganolfan wedi ei lleoli yn hen adeilad tafarn The Seven Stars yn Stryd Caer yn y dref.[3] HanesDechreuwyd ymgyrch yn ystod Eisteddfod Genedlaethol Cymru Wrecsam a'r Fro 2011 i godi arian ar gyfer Canolfan Gymraeg i'r dref.[4] Gwerthwyd cyfrandaliadau er mwyn sichrau prydles 21 mlynedd ar yr adeilad ac am waith adnewyddu, ac fe gyrhaeddwyd y nod erbyn diwedd mis Rhagfyr y flwyddyn honno. Agorwyd Canolfan Gymraeg y Saith Seren ar 25 Ionawr 2012 gyda chyfleusterau bar a chegin ar gyfer paratoi bwyd. CyfleusterauCynhelir sesiynau sgwrsio i ddysgwyr, cyfarfodydd ac adloniant yn Gymraeg ac yn Saesneg yn rheolaidd a bydd dosbarthiadau Cymraeg cyn gynted ag y bydd ystafelloedd dosbarth yn barod. Hanes yr adeiladAdeiladwyd tafarn The Seven Stars yn 1898 yn ôl cynlluniau Thomas Price, Lerpwl. Mae'n ddull masnachol hynod sy'n defnyddio elfennau o bensaernïaeth Celf a Chrefft.[5] Mae'n adeilad rhestredig Gradd II. Gweler hefyd
Cyfeiriadau
Dolenni allanol |
Portal di Ensiklopedia Dunia