S. J. Perelman
Awdur digrif a sgriptiwr ffilm o'r Unol Daleithiau oedd Sidney Joseph Perelman (1 Chwefror 1904 – 17 Hydref 1979). Nodweddir ei waith gan chwarae ar eiriau, parodi, nihiliaeth gomig, a dychan pob dydd. Ganed yn Brooklyn, Efrog Newydd, a symudodd y teulu i Providence, Rhode Island, pan oedd yn fachgen. Astudiodd ym Mhrifysgol Brown, ac yno golygodd gylchgrawn hiwmor y myfyrwyr, ond ni derbyniodd ei radd. Priododd â Laura West ym 1929, a bu'r ddau ohonynt yn cydweithio ar sawl sgript ffilm. Cyfrannodd Perelman at sgriptiau ar gyfer ffilmiau cynnar y brodyr Marx, gan gynnwys Monkey Business (1931) a Horse Feathers (1932). Cyhoeddwyd ei ysgrifau ffraeth yn fynych gan gylchgrawn The New Yorker, a chesglir y rheiny a gweithiau eraill mewn cyfrolau megis Strictly from Hunger (1937), Westward Ha!, or, Around the World in Eighty Clichés (1948), a The Road to Miltown, or, Under the Spreading Atrophy (1957). Ym myd y theatr, cyfrannodd at y comedïau All Good Americans (1934) ac One Touch of Venus (1943). Perelman oedd cyd-enillydd Gwobr yr Academi am y sgript addasedig orau am iddo gydweithio ar Around the World in 80 Days (1956). Bu farw yn Efrog Newydd yn 75 oed.[1] Cyfeiriadau
|
Portal di Ensiklopedia Dunia