Sŵnami
Mae Sŵnami yn fand roc indie o Wynedd. HanesSefydlwyd y band yn 2011, gan ymddangos ar gystadleuaeth Brwydr y Bandiau C2 y flwyddyn honno. Daeth y band yn ail, gyda Siân Miriam yn cipio'r wobr gyntaf. Roedd y pum aelod gwreiddiol, Ifan Davies (llais, gitâr), Ifan Ywain (gitâr), Gerwyn Murray (gitar fâs, llais), Huw Ynyr (allweddellau, llais), a Tom Ayres (drymiau), wedi eu magu ym Meirionnydd, gyda'r rhan fwyaf ohonynt yn mynychu Coleg Meirion Dwyfor. Ymddangosodd y grŵp ar raglen Bandit ar y ffurf hwn.[1] Bu i'r grŵp ennill yng nghategori 'Band Newydd Gorau' yn noson wobrau'r Selar y flwyddyn hon. Erbyn rhyddhau eu senglau cyntaf, Mynd a Dod ac Eira ar label Rasal yn 2012, bu i Tom Ayres gyfnewid â Lewis Williams (gynt o Helyntion Jôs y Ficar) ar y drymiau, a Huw Ynyr yn penderfynu peidio ymddangos â'r band ar lwyfan. Ymunodd Gruff Jones, a oedd eisoes â phrosiect cerddorol electronig o'r enw Crash.Disco!, â'r band, gan achosi iddynt ddatblygu elfennau electronig eu cerddoriaeth ymhellach. Rhyddhawyd EP arall, Du a Gwyn, ar y label hwn yn 2013, a oedd yn cynnwys un o'u caneuon mwyaf poblogaidd, 'Gwreiddiau'. Ymddangosodd y grŵp fel prif fand Maes B yn Eisteddfod Llanelli, 2014, a hynny er gwaethaf y ffaith mai dim ond un EP a dwy sengl y bu iddynt ryddhau cyn hynny. Yn y flwyddyn honno, hefyd, y bu iddynt gyhoeddi eu cynnyrch cyntaf ar eu label presennol, I Ka Ching, gyda'r record fer Cynnydd / Gwenwyn. Rhyddhaodd y grŵp eu halbwm cyntaf, Sŵnami, yn 2015. Bu i'r albwm hwnnw ennill gwobr yn Eisteddfod Sir Fynwy a'r Cyffiniau, 2016, am albwm gorau'r flwyddyn.[2] Bu i'r albwm gael ei enwebu ar gyfer Gwobr Gerddoriaeth Gymreig 2015-16.[3] GwobrauGwobrau'r Selar[4]
Disgyddiaeth
Cyfeiriadau |
Portal di Ensiklopedia Dunia