Ruyton-XI-Towns
Pentref a phlwyf sifil yn sir seremonïol Swydd Amwythig, Gorllewin Canolbarth Lloegr, ydy Ruyton-XI-Towns[1] (hynny yw, Ruyton Eleven Towns; IPA: /ˈraɪtən ɪˈlɛvən taʊnz/).[2] Fe'i lleolir yn awdurdod unedol Swydd Amwythig. Yng Nghyfrifiad 2011 roedd gan y plwyf sifil boblogaeth o 1,379.[3] Cafodd y pentref ei enw anarferol yn y 12g pan adeiladwyd castell yn y Mers, a daeth yn faenor i un ar ddeg trefgordd leol. Mae'r rhifolion Rhufeinig am "un ar ddeg" wedi'u gynnwys yn yr enw. Mae rhai o'r un ar ddeg trefgordd hynafol, sydd wedi'u lleoli i'r gogledd a'r gorllewin o Ruyton, yn dal i oroesi fel pentrefannau heddiw; er mai dim ond casgliad o adeiladau fferm yw rhai, fel Coton. Yr un ar ddeg oedd Ruyton, Coton, Shotatton, Shelvock, Eardiston ac Wykey, sy'n aros yn y plwyf; a Felton, Haughton, Rednal, Sutton a Tedsmore, sydd bellach ym mhlwyf West Felton. Adeiladau a chofadeiladau
Cyfeiriadau
|
Portal di Ensiklopedia Dunia